Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnig eglurder ar eu dull o frechu yn erbyn y firws brech mwnci yng Nghymru.

Daw’r galwadau ar ôl dryswch ynglŷn â dull gweithredu Llywodraeth Cymru o’i gymharu â’r dull yn Lloegr.

Mae brech mwnci yn glefyd feirol heintus sy’n gysylltiedig â’r frech wen, sydd fel arfer yn achosi symptomau ysgafn, er bod amcangyfrifon marwolaeth yn amrywio o 1-10%, a gall y clefyd fod yn fwy niweidiol i’r rhai â systemau imiwnedd gwan.

Mae dros 2,000 o achosion wedi’u gweld yn y Deyrnas Unedig hyd yn hyn.

Mae’r achosion wedi lledu i dros 75 o wledydd, gyda Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn datgan argyfwng iechyd byd-eang.

Roedd 24 o achosion yng Nghymru erbyn Gorffennaf 21.

Er nad oes brechlyn ar gyfer brech mwnci ar hyn o bryd, mae brechlyn y frech wen wedi bod yn effeithiol yn erbyn y firws gan ei fod yn dod o’r un teulu.

Ar Fehefin 22, cyhoeddodd Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ddatganiad yn amlinellu bod Asiantaeth Diogelwch Iechyd y Deyrnas Unedig wedi argymell gweithredu strategaeth frechu ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn perygl o ddal y firws, gan gynnwys dynion sy’n cael rhyw gyda dynion a gweithwyr gofal iechyd sy’n gweithio yn y gwasanaethau iechyd rhywiol.

Fodd bynnag, bu dryswch ynghylch y cyflwyniad, a dywedwyd wrth y rhai dan sylw i beidio â dod ymlaen am y brechlyn nes eu bod nhw’n clywed yn wahanol.

Yn y cyfamser yn Lloegr, mae clinigau niferus eisoes wedi sicrhau bod y brechlyn ar gael ac mae clinigau galw i mewn wedi’u sefydlu yn Llundain.

Angen sicrhau argaeledd ledled Cymru

“Mae wir angen i ni weld mwy o eglurder gan Lywodraeth Cymru ar ei chynlluniau i sicrhau bod y rheini sy’n fwy tebygol o fod mewn perygl o ddal brech Mwnci yn gallu cael eu brechu,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae datgan y cysylltir â rhywun ar bresgripsiwn PrEP yn iawn, ond beth am y niferoedd mawr o bobol sy’n agored i niwed nad ydynt ar PrEP? Mewn rhai byrddau iechyd fel Powys, nid yw PrEP ar gael o hyd, sy’n broblem ynddo’i hun.

“O ystyried pa mor gyflym mae’r feirws yn lledu, yr hyn sydd wir angen i ni ei weld yw sicrhau bod brechlynnau ar gael mewn clinigau ledled Cymru a sicrhau bod apwyntiadau cerdded i mewn ar gael hefyd.

“Hoffwn hefyd i Lywodraeth Cymru ddweud beth maen nhw’n ei wneud i fynd i’r afael â’r cyflenwad cyfyngedig o’r brechlyn MVA.

“Mae’n hanfodol bod y pryderon hyn yn cael eu hegluro er mwyn rhoi tawelwch meddwl i’r rhai sydd mewn perygl.”