Mae Comisiwn y Senedd wedi croesawu pedwar intern ar gynllun interniaeth newydd, ‘Ymlaen’.

Mae’r cynllun yn darparu interniaeth â thâl i raddedigion o gefndir Du, Asiaidd neu Ethnig Lleiafrifol ym myd gwleidyddiaeth Cymru.

Yn ystod yr interniaeth, bydd y pedwar yn meithrin sgiliau ac yn datblygu gwybodaeth mewn gweithle cyffrous lle mae cyfreithiau Cymru’n cael eu gwneud.

Mae’r cynllun yn rhan o ymrwymiad y Senedd i ddenu talent o amrywiaeth eang o gefndiroedd a chydnabod gwerth adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn eu gweithlu.

Mae’r pedair rôl o fewn y timau Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phwyllgorau’r Senedd, a byddan nhw’n parhau am gyfnod o 12 mis.

‘Gwerthoedd craidd yn atseinio’

“O’r cychwyn cyntaf, mae gwerthoedd craidd Comisiwn y Senedd, ‘Parch’ ‘Angerdd’ a ‘Balchder’ wedi’i atseinio gyda mi,” meddai Abida Khatun, un o’r ymgeiswyr llwyddiannus.

“Fel menyw Fwslimaidd, Brydeinig/Bangladeshaidd, rwy’n gobeithio bod yn llais i’m cymuned a’m cymunedau nad ydynt efallai’n gwybod llawer am waith y Senedd a dangos pa mor bwysig yw’r gangen hon o’n cymdeithas.

“Mae’n bwysig i mi fy mod yn annog meddylfryd o fewn ein cymunedau, o ‘os ydyn nhw’n gallu gwneud hynny, dwi’n gallu gwneud hynny.”

‘Cyfle cyffrous wrth galon democratiaeth Cymru’

Mae’r cynllun yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chymrodoriaeth Windsor, sef elusen sy’n arbenigo mewn rhaglenni arloesol o ddatblygu personol ac arweinyddiaeth, sy’n galluogi talent o gymunedau amrywiol i gael eu gwireddu.

“Mae hwn yn gyfle cyffrous i raddedigion feithrin eu sgiliau a gwella eu dealltwriaeth mewn amgylchedd proffil uchel a chyffrous sydd wrth galon democratiaeth Cymru,” meddai Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd.

“Rydym yn falch y bydd y cynllun yn mentora, hyfforddi a darparu cyfleoedd cyffrous i Lukas, Abida, Afsana a Suad i feithrin sgiliau a datblygu eu gyrfaoedd, gyda chyfle amhrisiadwy i gymryd rhan mewn gweithgareddau i helpu i baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

“Yn yr un modd, rydym yn ffodus eu bod wedi dewis dilyn eu hinterniaethau gyda Chomisiwn y Senedd – rydym wrth ein boddau!

“Gwyddom fod ein gweithlu’n gryfach pan mae’n adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru yn well.”