Mae ffotograffau rhyfeddol a gafodd eu tynnu o gannoedd o negatifau plât gwydr hynafol y cafwyd hyd iddyn nhw mewn sgip yn dal i fod yn ddirgelwch i haneswyr Ynys Môn.
Mae ‘Casgliad Burrows’ yn cael ei gadw gan wasanaeth archifau Cyngor yr ynys, ac mae’n cynnwys lluniau du a gwyn a gafodd eu tynnu gan gyn-ffotograffydd y wasg o Gaergybi.
Mae’n ymddangos bod R L V Burrows wedi croniclo pob agwedd ar fywyd yr ynys yn ystod gyrfa hir yn ymestyn dros ddegawdau lawer yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Yn anffodus, pan gafodd y lluniau eu darganfod rai blynyddoedd yn ôl, roedd y mynegai ar goll ac nid oedd unrhyw gapsiynau.
Mae’r delweddau yn adrodd eu hanes eu hunain, gan ddangos agweddau diddorol ar fywyd Môn yn ogystal â manylion am hanes cymdeithasol Cymru.
Mae archifwyr, staff a gwirfoddolwyr yn Llangefni wedi pori dros y delweddau gan chwilio am gliwiau i’w dyddiadau, pam gawson nhw eu tynnu, ble maen nhw a phwy maen nhw’n eu dangos.
Siop ‘anarferol’
Mae un ddelwedd anhysbys yn dangos siop anarferol sy’n ymddangos fel pe bai’n gwerthu cymysgedd eclectig o feiciau, recordiau chwarae hir, batiau criced a byrddau dartiau.
Mewn un arall, mae dwy fenyw hyfryd eu golwg, un mewn iwnifform y corfflu amddiffyn sifil, yn sefyll wrth ymyl dwy sosban enfawr wrth ymyl popty.
“Dydyn ni ddim yn gwybod beth sy’n digwydd yn y llun hwnnw, efallai bod y merched yn darparu cymorth bwyd adeg y Rhyfel neu ar ôl y Rhyfel, efallai ei fod yn ystod y dogni,” meddai’r uwch archifydd Kelly Parry.
“Dydyn ni ddim yn gwybod, ond rydyn ni’n gobeithio y gall fod rhywun allan yna yn gwybod?
“Mae’r llun o’r siop yn gwerthu beiciau yn wych!
“Mae’n ymddangos bod y siop yn cynnig casgliad od iawn o bethau ar werth!
“Efallai y bydd rhywun yn cofio prynu record neu fwrdd dartiau?”
Llythyr gan Florence Nightingale
Mae delweddau eraill Burrows yn dangos pobol ac anifeiliaid mewn marchnadoedd amaethyddol a sioeau lleol, mae yna ffeiriau pentref, breninesau carnifal, hen dafarndai a bariau, tu mewn i siopau a golygfeydd allanol, pobol wrth eu gwaith, garejys a golygfeydd ffatri, yn ogystal ag ysgolion ac ystafelloedd dosbarth lleol.
Mae’r Twyni, a delweddau eraill, yn rhan o drysorfa hanesyddol helaeth a gedwir yn swyddfa Cyngor Sir Ynys Môn.
Mae eitemau diddorol eraill yn cynnwys dogfennau stad a llythyrau, gan gynnwys gohebiaeth oddi wrth Florence Nightingale a ysgrifennodd at nyrs ar yr ynys.
Yr eitem hynaf a phrinnaf yw llyfr tudalen felwm (croen anifeiliaid).
Mae cofrestr blwyf Penrhoslligwy yn dyddio o 1578 i 1766, ac yn darparu cofrestr fanwl o enedigaethau, priodasau a chladdedigaethau.
‘Adnabod, casglu a chadw’
Mae staff ar safle Stad Ddiwydiannol Bryn Cefni ar genhadaeth i annog mwy o drigolion Ynys Môn i ddefnyddio eu casgliadau ac adnoddau ar-lein.
Gyda mwy o bobol yn galw heibio, maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd mwy o olau yn cael ei daflu ar rai o ddelweddau llai adnabyddus Burrows.
Dywed y gwasanaeth mai eu nod yw “adnabod, casglu a chadw” hanes yr ynys, ac maen nhw am wneud eu 500 mlynedd o gofnodion “ar gael i bawb.”
Maen nhw’n awyddus i chwalu’r myth bod yr archifau’n llawn o hen ddogfennau llychlyd, ac mai dim ond ar gyfer academyddion maen nhw.
Er bod eu pwnc wedi’i wreiddio yn y gorffennol, mae’r gwasanaeth archifau’n frith o’r wybodaeth ddiweddaraf am ‘pod’ uwch-dechnoleg, wedi’i reoli gan dymheredd, sydd wedi’i gynllunio i ddiogelu eu cofnodion gwerthfawr.
Mae hefyd yn cynnwys ystafelloedd modern, eang ar gyfer ymchwilio, arddangosfeydd a gweithgareddau.
Mae’r adran archifau hefyd wedi gweithio ar y cwricwlwm ysgol, wedi helpu myfyrwyr a gwirfoddolwyr, yn ogystal â sicrhau bod adnoddau ar gael i sefydliadau eraill.
‘Mae gennym ni gymaint i’w gynnig’
Yn ddiweddar, cyfrannodd luniau i’r Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer gwaith ar ‘archif cof’, a helpodd gyda gwaith yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o ddementia.
“Mae gennym ni gymaint i’w gynnig, nid dim ond i’r ymchwilwyr a’r academyddion difrifol rydyn ni yma, rydyn ni yma i bawb,” meddai Kelly Parry.
“Byddem wrth ein bodd yn gweld mwy o bobol leol yn galw heibio.
“Gallwn helpu pobol gyda chymaint o bethau, o ymchwil coeden deulu, i edrych ar hen fapiau, i hanes morwrol, llongau ac awyrennau, trosedd a chosb, cofnodion y wyrcws a chyfraith y tlodion, llythyrau, dyddiaduron, ffotograffau. Rydym yn dal pob math o gofnodion hynod ddiddorol y mae angen eu rhannu.
“Mae ymchwil deuluol yn rheswm poblogaidd pam mae pobl yn ymweld.
“Efallai y bydd unrhyw un o’r ardal sydd â chysylltiadau teuluol hirsefydlog hyd yn oed yn gweld eu hynafiaid wedi’u cofnodi ar ein cofrestr Penrhoslligwy, sy’n mynd yn ôl mor bell â 1578.”
Mae’r gwasanaeth hefyd yn derbyn ymholiadau o bob rhan o’r byd.
Mae wedi gweld ymwelwyr mor bell i ffwrdd ag Awstralia a Chanada yn ymchwilio i hanes eu teuluoedd Cymreig.
Mae Kelly Parry yn awyddus i annog unrhyw un sydd â hen ffotograffau, dogfennau, hen ddyddiaduron, neu gofnodion hanesyddol yn llechu mewn siediau ac atigau i gysylltu â nhw yn gyntaf cyn meddwl am daflu unrhyw beth i ffwrdd.
“Mae’n drist bod lluniau Burrows wedi’u darganfod mewn sgip, pwy a ŵyr faint o eitemau gwerthfawr sydd wedi’u colli i sgipiau dros y blynyddoedd,” meddai.
“Byddem yn annog pobol i feddwl cyn taflu unrhyw beth fel hen luniau.
“Mae’n rhaid bod llawer o bethau’n cuddio mewn atigau, cypyrddau a siediau ar draws yr ynys a all helpu i adrodd ei stori.
“Gall pobol gysylltu â ni bob amser os nad ydyn nhw’n siŵr a yw’n rywbeth gwerth ei arbed. Neu galwch heibio i’n gweld ni!”