Mae ymateb cymysg wedi bod i addewid llafar Boris Johnson ei fod e am adeiladu adweithydd niwclear bach yn Nhrawsfynydd.
Fe wnaeth y sylw yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Drenewydd ddoe (dydd Gwener, Mai 20), ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddweud eisoes eu bod nhw’n ymrwymo i gefnogi gorsaf bŵer newydd yn Wylfa ym Môn.
Ond dydy ei eiriau ddim yn cynnig sicrwydd y bydd y cynlluniau’n mynd yn eu blaenau.
Serch hynny, mae Tom Greatrex, prif weithredwr Cymdeithas Diwydiant Niwclear y Deyrnas Unedig, wedi croesawu’r cyhoeddiad fod yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a Chwmni Egino am gydweithio ar gynigion ar gyfer lleoli datblygiad niwclear newydd yn Nhrawsfynydd.
“Mae Cymru’n gartref i ddau safle niwclear o safon fyd-eang, a gallai Trawsfynydd chwarae rhan allweddol mewn cynlluniau i ail-wampio’r diwydiant,” meddai.
“O ystyried ei hanes cyfoethog o gynhyrchu ynni glân, mae’n darged clir i ddatblygwyr ac mae’r cydweithrediad hwn yn dangos bod y diwydiant o ddifrif ynglŷn â chyflawni’r weledigaeth a osodwyd gan y llywodraeth yn ei strategaeth diogelwch ynni.”
‘Enghraifft eto o aer poeth’
Ond yn ôl mudiad Pobl Atal Wylfa B (PAWB), mae’r cyhoeddiad yn “enghraifft eto o aer poeth o gyfeiriad Boris Johnson”.
“Gall yr addewidion ganddo sy’n cynnwys dim manylion sut y byddai’n gwirerddu ei freuddwyddion niwclear yn Nhawsfynydd a’r Wylfa ddod yn ôl i’w frathu,” meddai Dylan Morgan o’r mudiad.
“Y celwydd amlwg cyntaf yn ei araith heddiw yw fod yr economi yn dod yn ôl yn gryf ar ôl Covid.
“Mae’n dangos anllythrennedd amgylcheddol ac economaidd rhyfeddol wrth wthio’r fath dechnoleg niwclear hen ffasiwn, peyglus, budr, bygythiol i iechyd amgylcheddol a dynol ac eithafol o ddrud yn erbyn cefndir o argyfwng costau byw llym iawn.
“Cymerwn engraifft Rolls Royce sydd â’u bryd ar godi adweithyddion modiwlaidd mawr 475MW. Mae eu disgrifio’n fach yn gwbl gamarweiniol gan fod un ohonynt yn fwy na dau hen adweithydd Magnox Trawsfynydd.
“Maen nhw wedi cael dau swm sylweddol o gymorthdal cyhoeddus eisoes i ddylunio’r adweithydd. Y cam nesaf fydd iddynt geisio godro’r pwrs cyhoeddus eto i adeiladu un o’r anghenfilod hyn.
“Wedyn bydd cais i’r llywodraeth am bris ffafriol am unrhyw drydan a allai gael ei gynhyrchu.
“Ac yn olaf, bydd Rolls Royce a’u tebyg yn cerdded i ffwrdd ar ddiwedd oes weithredol unrhyw adweithydd gan adael i ni fel trethdalwyr dalu am gostau dadgomisiynu a cheisio diogelu’r gwastraffau niwclear gwenwynig a hirhoedlog o unrhyw adweithydd.”
Dim dadeni niwclear
“Mae cyfres o lywodraethau ers dyddiau Tony Blair wedi dymuno gweld dadeni niwclear,” meddai wedyn.
“Megis yn achos Thatcher, maen nhw wedi llwyddo i ddechrau adeiladu un gorsaf yn Hinkley Point yn unig sydd fwy byth dros gyllideb ac amserlen yn dilyn cyhoeddiad arall yr wythnos hon.
“Mae haeriadau gwag Johnson am niwclear yn sen ar bobl Cymru.
“Mae dros bymtheng mlynedd wedi cael eu gwastraffu ar obeithion llywodraethau Llafur a Cheidwadol sy’n glynu wrth freuddwyd ymerodaethol ynni niwclear.
“Gallai’r bilynau sydd wedi cael eu gwastaffu ar y polisi ffol hwn fod wedi gallu cael eu buddsoddi mewn technolegau adnewyddol rhatach, llawer iawn glanach fyddai’n weithredol yn llawer cyflymach ac yn mynd i’r afael o ddifrif â heriau cynhesu byd-eang trwy leihau allyriadau carbon i’r amgylchedd.
“Ni all ynni niwclear gyfrannu dim at leihau effeithiau newid hinsawdd o gofio bod arbenigwyr rhyngwladol yn ein rhybuddio bod rhaid i newidiadau mawr mewn allyriadau carbon ddigwydd o fewn y degawd nesaf.
“O ganiatáu codi adweithydd niwclear for nesaf, ni fyddai ar ei draed am dros ddegawd o leiaf.
“Nid yw’n amhosibl wrth gwrs y gwelwn ddiwedd ar arweinyddiaeth Johnson o’r Blaid Geidwadol yn fuan, a bydd hi’n ddiddorol gweld wedyn faint o frwdfrydedd fydd gan y trysorlys i gyllido’r pwll niwclear diwaelod.”