Mae Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn dweud ei fod yn “amheus” o gynlluniau Llafur a Phlaid Cymru i ddiwygio Senedd Cymru.
Wrth siarad â golwg360 ar ail ddiwrnod cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Drenewydd, dywedodd nad yw’n credu y bydd “neb yng Nghymru yn teimlo bod eu bywydau nhw’n cael eu gwella” o ganlyniad i’r diwygio.
Beth yn union yw’r newidiadau mae Llafur a Phlaid Cymru am eu cyflwyno, felly?
Y bwriad yw cynyddu maint Senedd Cymru o’r 60 aelod presennol i 96, gyda chwotâu rhyw yn cael eu cyflwyno wrth i Mark Drakeford ac Adam Price geisio “creu Senedd fodern” gyda’r un nifer o ddynion a menywod yn y Siambr.
Fodd bynnag, mae yna gwestiynau mawr wedi’u gofyn am y system newydd o ethol aelodau sy’n cael ei chynnig.
Dan y cynlluniau, byddai etholaethau yn etholiad y Senedd yn 2026 yr un fath â’r 32 etholaeth fydd gan Gymru yn Senedd y Deyrnas Unedig, sy’n cael eu cynnig gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
Y bwriad yw cyplysu’r etholaethau hyn er mwyn creu 16 o etholaethau i Senedd Cymru, gyda phob etholaeth wedyn yn ethol chwe Aelod.
Ac yn ôl y cynllun, fe fydd system D’Hondt yn cael ei defnyddio gyda rhestrau ymgeiswyr caëedig– sy’n symudiad tuag at system gyfrannol o’i chymharu â’r drefn Cyntaf i’r Felin – yn cael ei mabwysiadu.
Dan y drefn ‘rhestrau ymgeiswyr caëedig’, fe fyddai pobol yn pleidleisio am bleidiau ac nid unigolion, ac ni fyddai modd bwrw pleidlais tros wleidydd penodol.
Nod systemau cynrychiolaeth gyfrannol fel D’Hondt yw dyrannu seddi i bleidiau yn ôl tua’r un faint â nifer y pleidleisiau a dderbynnir.
Yn fras, felly, pe bai plaid yn ennill traean o’r pleidleisiau yna dylai ennill tua thraean o’r seddi.
Mae sawl dull, gyda D’Hondt yn un ohonyn nhw, wedi’u dyfeisio sy’n sicrhau bod dyraniadau seddi y pleidiau mor gyfrannol â phosibl.
Fodd bynnag, dull D’Hondt yw un o’r dulliau lleiaf cyfrannol ymhlith y dulliau hyn, gan ei fod yn ffafrio pleidiau mawr a chlymbleidiau dros bleidiau bach.
Er enghraifft, o dan y system, mae’n debyg y byddai’n rhaid i unrhyw blaid ennill oddeutu deuddeg y cant o’r bleidlais mewn etholaeth er mwyn ennill sedd – rhywbeth allai brofi’n sialens i bleidiau megis y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yng Nghymru.
Yn y cyfamser, gallai rhywun ddychmygu sefyllfa lle mae’r pleidiau mawr yn hawlio’r seddi yn eu cadarnleoedd, gan gipio rhan helaeth o’r chwech o seddi mewn sawl etholaeth.
Ac yn wir, mae adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol a gafodd ei gadeirio gan yr Athro Laura McAllister, yn cydnabod y byddai’r system yn “hwyluso pleidiau gwleidyddol cryf a chydlynus”.
‘Amheus’
Bydd y diwygio yn golygu bod yna Senedd gryfach a mwy atebol yn ein cynrychioli ni yma yng Nghymru, medd Llafur a Phlaid Cymru.
Breuddwyd gwrach yw hi, yn ôl Simon Hart.
“Taswn i’n credu fod y diwygio yn mynd i arwain at Lywodraeth gryfach a mwy atebol, efallai y byddai ganddyn nhw bwynt,” meddai wrth golwg360.
“Ond dw i ddim yn gweld sut y byddai’n arwain at hynny.
“Dyw hyn ddim yn mynd i newid canlyniadau pleidleisiau (yn y Senedd) oherwydd bydd aelod yn cael ei chwipio fel sy’n digwydd rŵan.
“O leiaf yn San Steffan, mae gennym ni ail siambr, nad oes gennym reolaeth drosti.
“Felly dyw hyn ddim yn mynd i newid dim byd.
“Ddylai neb dwyllo eu hunain i feddwl bod y diwygio yn mynd i wneud dim i atal uchelgeisiau Mark Drakeford.
“Fe alla i eich sicrhau chi na fyddai’n bwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn pe bai hynny yn wir.
“Y peth arall sydd yn fy nharo i yw fy mod i wedi bod yn rhan o bedwar etholiad cyffredinol, tri etholiad Senedd a phedwar etholiad cyngor a dw i ddim yn cofio’r un achlysur lle mae pleidleisiwr – boed nhw’n 60 oed, 86 oed, yn dod o ogledd Cymru, y canolbarth neu dde Cymru, yn rhedeg busnes, neu beth bynnag – wedi dweud wrthyf mai’r ateb i’w problemau ydi Senedd fwy, neb.
“Felly dw i’n amheus iawn o chwarae o gwmpas gyda threfniadau cyfansoddiadol sy’n dal i fod yn addas i’r diben.
“A dw i’n meddwl bod gan hyn fwy i’w wneud gyda Mark Drakeford yn ceisio amddiffyn grym y Blaid Lafur yng Nghymru, ddim am bleidleiswyr mae hyn.
“Mae Adam Price hefyd wedi cytuno i’r trefniadau od yma, am wn i oherwydd ei fod yn credu y bydd yn gwthio’r achos dros annibyniaeth, oherwydd dyna ydi’r unig beth y mae Adam byth yn poeni amdano.
“Felly dw i ddim yn gweld unrhyw fanteision i hyn.
“Dw i ddim yn gweld swyddi’n cael eu creu gan hyn, dw i ddim yn gweld ffyniant yn dod o hyn, dw i ddim yn gweld pobol yn penderfynu buddsoddi mewn ffatri neu fusnes newydd yng Nghymru o ganlyniad i hyn.”
‘Trafferthion ar y gorwel’
Mae Simon Hart yn darogan fod “trafferthion ar y gorwel” yn sgil y diwygio.
“Rydw i yn amheus am y system oherwydd o be dw i’n ddeall, bydd yr ymgeiswyr sy’n sefyll yn yr etholiadau yn cael eu dewis gan oddeutu 200 o aelodau o’r pleidiau,” meddai.
“Ar hyn o bryd mae gan bleidleiswyr y cyfle i bleidleisio dros unigolion, ond gyda’r system hon bydd y dewis yna yn cael ei gyfyngu.
“Dw i hefyd yn synnu fod Adam Price wedi cytuno i hyn oherwydd mae ei blaid wedi bod yn galw am STV ers tro, roedd o’n rhan o’u maniffesto.
“Os ydyn nhw am herio Mark Drakeford ar hyn, mae angen iddyn nhw ystyried ymuno â’r pleidiau eraill a phleidleisio yn erbyn hyn.
“Byddai hynny yn dangos a ydi Plaid yn rym gwleidyddol go iawn ac a ydyn nhw wir eisiau dal y Llywodraeth i gyfrif.
“Byddai hefyd yn gorfodi Mark Drakeford i ystyried systemau pleidleisio eraill.
“Dw i’n sicr yn gallu gweld trafferthion ar y gorwel.
“Mae hyn yn mynd i gostio lot o arian, mae rhai pobol yn dweud £60m, rhai yn dweud £100m dros gyfnod un Senedd.
“Rydan ni’n trafod hyn ar adeg lle mae yna argyfwng costau byw.
“Does dim angen bod yn asgell dde, asgell chwith neu beth bynnag i weld bod hyn yn amser hynod o wael i fod yn ehangu ymerodraeth Bae Caerdydd ar gost o £100m.
“Dw i’n meddwl y byddai swm fel yna yn cyflogi oddeutu 500 o weithwyr Gwasanaeth Iechyd dros gyfnod o bum mlynedd.
“Mae o’n lot o arian, a dw i ddim yn meddwl y bydd neb yng Nghymru yn teimlo bod eu bywydau nhw’n cael eu gwella gan yr arbrawf hwn.”