Mae arolwg gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol yn dangos cynnydd sylweddol yn y galw am therapyddion galwedigaethol yng Nghymru dros y chwe mis diwethaf.
Yn ôl yr arolwg, roedd 68% o aelodau’r Coleg yng Nghymru wedi adrodd am gynnydd yn y galw, gyda 75% yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen ar gleifion.
Mae’r arolwg yn codi cwestiynau ynghylch y tebygolrwydd o roi cefnogaeth adfer amserol i gleifion, sy’n hanofodol wrth iddyn nhw wella o salwch tymor byr a cheisio rheoli cyflyrau tymor hir.
Yn sgil y pandemig, mae gwasanaethau adfer dan y don ac mae’r galw am wasanaethau wedi codi’n sylweddol dros y ddwy flynedd diwethaf, gyda chynnydd eto’n ddiweddar.
Fe wnaeth dros 550 o therapyddion galwedigaethol ledled y Deyrnas Unedig ymateb i’r arolwg.
Casgliadau’r arolwg:
- Mae 84% o’r rhai wnaeth ymateb yn gofalu am bobol y daeth eu hanghenion yn fwy cymhleth o ganlyniad i oedi yn sgil y pandemig
- Nododd 82% gynnydd yn y galw am adferiad drwy therapi galwedigaethol dros y chwe mis diwethaf
- Mae 71% yn teimlo nad oes digon o therapyddion galwedigaethol i ateb y galw
- Nododd 66% anawsterau wrth gyflwyno gwasanaethau adfer o ganlyniad i lai o fynediad at gyfleusterau, gofod addas a chyfarpar
- Mae 50% yn cefnogi pobol sydd wedi’u heffeithio gan Covid hir
‘Gwasanaethau wedi’u gorlethu’
Yn ôl Karin Orman, Cyfarwyddwr Arfer ac Arloesi Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, mae’r arolwg yn dangos bod gwasanaethau wedi’u gorlethu.
“Yn syml iawn, dydy hyn ddim yn gynaliadwy, a dydy’r gweithlu ddim yn ddigon mawr i ateb y galw ar hyn o bryd,” meddai.
“Ledled y Deyrnas Unedig, mae angen i arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau adfer a gyrru recriwtio mwy o therapyddion galwedigaethol ar frys. Nid ymhen rhai blynyddoedd, ond nawr.
“Fel arweinwyr gwasanaethau adfer, mae therapyddion galwedigaethol yn rhan hanfodol o’r ateb i weithio drwy’r ôl-groniad o bobol y mae angen ymyrraeth arnyn nhw.
“Mae’r fathemateg yn syml – cyflyma’n byd mae gan bobol fynediad at wasanaethau adfer, gorau’n byd mae eu gobeithion o gael mynd yn ôl i wneud y pethau mae angen iddyn nhw eu gwneud ac maen nhw’n caru eu gwneud.”
‘Adferiad effeithiol yn hanfodol’
“Yn ddiweddar, mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cwblhau ymchwiliad manwl i effaith amserau aros ar bobol yng Nghymru,” meddai Russell George, sy’n cadeirio’r pwyllgor yn y Senedd.
“Rydym yn credu’n gryf fod adferiad ac ailalluogi effeithiol yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall pobol aros yn iach ar ôl iddyn nhw dderbyn eu triniaeth.
“Argymhelliad allweddol y pwyllgor i Lywodraeth Cymru yw y dylai’r Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol amlinellu pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod byrddau iechyd yn cynnig lleoliadau addas ar gyfer cyflwyno gwasanaethau megis adferiad a therapi galwedigaethol mewn ysbytai, ar yr ystad gofal sylfaenol ac yn y gymuned.
“Edrychwn ymlaen at dderbyn ymateb Llywodraeth Cymru.”