Llafur sydd wedi mynd â hi wedi etholiad blêr drwyddi draw.

Ennillodd y blaid o drwch blewyn yn erbyn Clymblaid Geidwadol a oedd wedi bod mewn grym am naw mlynedd … a thri phrif weinidog gwahanol.

Ymgyrch ddi-fflach ar bob ochr a gafwyd gyda gormod o ymddygiad plentynaidd ac anghyfrifol. Nid oedd llawer o sbarc ar lawr gwlad wrth i’r ddau arweinydd (Anthony Albanese y Llafurwr, Scott Morrison y ceidwadwr crefyddol) ymgyrchu, a fawr dim arwydd o arweinyddiaeth go iawn. Ac ar ben hynny yr oedd beirinidaeth lym o’r ffordd wnaeth llawer o’r cyfryngau ohebu arni gyda phob cynhadledd i’r wasg yn fwy o sesiwn sgrech na seiat holi.

Pan ddaeth yr amser i fwrw pleidlais, aeth tua chwarter o’r etholwyr ati cyn diwrnod y lecsiwn. Ac ar Fai yr 21ain ei hunan, yr oedd mwy o fynd o gwmpas y sawl oedd yn gwerthu brechdannau selsig democrataidd anfarwol y wlad nag o gwmpas y criw anffodus oedd yn rhannu taflenni gwleidyddol. (Peth codi arian i ysgolion yw gwerthu brechdannau ynghyd â stodinau cacennau).

Ac ar noson y cyfrif, fe gafwyd annibendod ychwangol, gyda darlun aneglur am oriau. Roedd ’na ogwydd yn erbyn y ddwy blaid fawr gyda’r Gwyrdddion a llu o ymgeisgwyr annibynnol “teal” ar eu hennill gyda’u polisiau newid hinsawdd yn apelio’n arbennig. Mae ’na gost wleidyddol i lywodraeth sy’n araf i ymateb i danau a llifogydd byth ac i wrthblaid sy’n ofni mentro ar faterion sy’n deillio ohonynt.

‘Teal’

Mae’r Gwyrddion, a gipiodd seddi oddi wrth aelodau seneddol y ddwy blaid fawr, yn blaid sefydlog ers degawdau yn Awstralia ond peth newydd sbon yw’r “Teals”.

Mae’r teitl “Teal” yn tarddu o’u lliwiau bosteri a chrysau-T a welir mewn etholaethau cefnog, hanesyddol Rhyddfrydol (ceidwadol) maestrefi’r dinasoedd mawrion. Ymgeiswyr benywaidd safodd dan eu lliwiau, pob un yn annibynnol i’r lleill, ac yn fenywod proffesiynol, profiadol a chyfathrebwragedd gwych. Eu cri ar y cyd oedd, “mae’n bryd am newid a newid syflaenol yn ein gwleidyddiaeth”.

A beth am y Prif Weinidog newydd? Mae Anthony Albanese yn fab i fam sengl a gafodd ei godi mewn tŷ cyngor yn Sydney. Cefnogwr pybyr i dîm NRL y South Sydney Rabbitohs (a’u lliwiau nhw yn goch a gwyrdd gyda llaw!) ac yn dipyn o droellwr yn ei amser hamdden. Nid ymgyrchydd da mohono – roedd e’n baglu dros ei eiriau ac ystadegau’n aml iawn – ond mae ganddo bersona real ac mae ar ei orau wrth siarad o’r galon.

Scott Morrison

Dyn gwahanol iawn yw’r dyn mae e wedi’i ddisodli. Roedd cymeriad Scott Morrison yn bwnc allweddol arall yn yr etholiad. Ei bersona yntau yn ymgyrch 2019 oedd bod yn “ddyn cyffredin” – good bloke, ys dywed yr Aussie. Ond ers hynny, mae pobol Awstralia wedi’i weld e yn rhy barod o lawer i osgoi cymryd cyfrifoldeb mewn argyfyngau megis Covid, tannau gwyllt ac ati. Ac roedd ei hoffter o sloganau tri gair a’i ddiffygion wrth ddelio â sgandalau rhywiol a gweithredol ei lywodraeth yn mynd dan groen llawer o’r etholwyr. Dyn marchnata oedd Scott Morrison wrth ei waith – yn y diwedd cyrhaeddodd ei “ddyddiad gwerthu” gwleidyddol.

Fe gawn weld a fydd Llafur yn ffurfio llywodraeth mwyafrifol neu ddelio â senedd grog. Gyda chwyddiant ar i fyny a materion y byd yn beryglus, mae ’na gyfnod heriol o flaen Anthony Albanese a’i griw.

Mae Llafur wrth eu boddau wrth feddwl am lywodraethu am y tro cyntaf ers naw myledd, ond noson yr “Eraill” oedd hi. Yn wir, mae gan Albanese ond traean o’r bleidlais – y gyfundrefn gyrfrannol sy’n dod ag ail bleidleisiau’r “Eraill” i’w gorlan erbyn diwedd y cyfrif. Bydd rhaid i Lafur gydweithio gyda’r Gwyrddion a’r “Teals”, doed a ddelo.

Felly ar ôl ymgyrch wnaeth ddiflasu’r cyhoedd, mae’r bobol wedi defnydddio eu grym i ddanfon neges ac i annog gwell gan y byd gwleidyddol.