Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw am eglurder ar frys ynghylch arholiad Uwch Gyfrannol Mathemateg CBAC a gafodd ei gynnal ddydd Iau (Mai 19).

Daw hyn yn dilyn adroddiadau bod disgyblion ar hyd a lled y wlad yn eu dagrau wrth adael yr ystafell arholi, am fod cwestiynau wedi codi am bynciau oedd heb fod yn y maes llafur eleni.

Dydy CBAC ddim wedi ymateb hyd yn hyn.

“Rhaid i CBAC roi datganiad brys yn egluro p’un a oedd yr arholiad hwn yn cynnwys cwestiynau oedd heb fod ym maes llafur y cwrs, ac os oedd e, beth maen nhw’n bwriadu ei wneud i ddatrys y sefyllfa,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Mae nifer o fyfyrwyr, yr oedd eu haddysg eisoes wedi cael ei heffeithio’n wael gan Covid, bellach yn teimlo’n bryderus dros ben, ac mae athrawon hefyd wedi mynegi eu pryder.

“Mae angen hefyd i’r Ysgrifennydd Addysg sicrhau bod eglurder llwyr yn cael ei roi i ysgolion a disgyblion, er mwyn lleihau unrhyw anghyfleustra i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cael amser eithriadol o anodd.”