Mae disgwyl i filoedd o bobol heidio i strydoedd Bheul Feirste (Belfast) heddiw (dydd Sadwrn, Mai 21) i fynnu Deddf Iaith Wyddeleg.

Mae lle i gredu mai hwn fydd y digwyddiad hawliau iaith mwyaf ers cenhedlaeth, gyda mwy na 25 o fysiau’n cyrraedd o bob rhan o Iwerddon.

Mae miloedd yn rhagor ar-lein wedi cefnogi’r alwad am Ddeddf Iaith.

Bydd yna orymdaith cyn y digwyddiad ger Neuadd y Ddinas, lle bydd siaradwyr ifanc yn amlinellu eu dadleuon tros gymdeithas sy’n cydnabod ac yn dathlu’r Wyddeleg.

‘Cefnogaeth anhygoel’

Yn ôl Conchúr Ó Muadaigh, llefarydd ar ran y mudiad An Dream Dearg, mae’r gefnogaeth i’r ymgyrch wedi bod yn “anhygoel”.

“Fyth ers 2017, mae’r galw am Ddeddf Iaith Wyddeleg wedi mynd yn uwch ac yn uwch,” meddai.

“Mae ein cymuned yn eithriadol o falch o’r iaith Wyddeleg ac rydym wedi cyffroi o gael mynd â’n neges o barch a chydraddoldeb allan i galon Belfast.

“Mae gennym ni dîm enfawr o ymgyrchwyr yn gweithio ddydd a nos ar yr ymgyrch hon ers rhai misoedd a rhai blynyddoedd.

“Mae An Lá Dearg yn ddiwrnod i ddathlu’r gwaith hwnnw, i gydnabod y daith mae’r gymuned wedi bod arni ac yn y pen draw, mae’n gyfle i ni fynegi i’r byd ein disgwyliadau dilys ar gyfer cymdeithas sy’n seiliedig ar hawliau sy’n trin siaradwyr Gwyddeleg fel aelodau cydradd, parchus a chydnabyddedig o’n gwlad ein hunain.

“Am yn rhy hir, mae ein hawliau wedi cael eu gwrthod a’u hatal.

“Y penwythnos hwn, rydym yn ymrwymo i aros ar y strydoedd, i drefnu a mynnu dyfodol gwell tan bod y rhai sydd mewn grym, o’r diwedd, yn gweithredu’r ‘camau pendant’ a gafodd eu haddo i ni yng Nghytundeb Gwener y Groglith.

“Mae’n bryd gweithredu.”