Mae pryderon wedi codi ar ôl i danau effeithio ar adeilad gyda diffygion diogelwch tân ddwywaith mewn llai na mis.

Fe wnaeth tân effeithio ar ddau falconi yn yr adeilad ym Mae Caerdydd dros y penwythnos diwethaf, ac aeth balconi arall ar dân ym mis Awst.

Ni chafodd neb eu hanafu yn y tanau ac nid ydy hi’n bosib dweud os oedd y tanau yn gysylltiedig â deunyddiau adeiladu diffygiol eto.

Fodd bynnag, mae’r ddau ddigwyddiad yn yr adeilad, sy’n rhan o ddatblygiad Victoria Wharf, wedi ailgodi pryderon nad oes gweithredu digon cyflym i fynd i’r afael â’r mater a sicrhau bod yr adeiladau’n ddiogel, medd y Democratiaid Rhyddfrydol.

‘Sgandal’

Mae arweinydd y blaid yng Nghaerdydd, y Cynghorydd Rhys Taylor, wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n gynt a gweithredu mwy er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng cladin dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Dyma’r ail dân o fewn mis mewn adeilad ym Mae Caerdydd sydd wedi cael ei daro gan y sgandal diogelwch adeiladau,” meddai.

“Mae gan breswylwyr sy’n cael eu heffeithio gan y sgandal hon, dros Gaerdydd, Abertawe a thu hwnt, ofn. Maen nhw wedi blino ac maen nhw’n rhwystredig gyda’r diffyg gweithredu gan Lywodraeth Llafur Cymru a chan ddatblygwyr eiddo.

Y Cynghorydd Rhys Taylor yn ymweld â’r safle

“Mae pobol yn talu miloedd ar filoedd o bunnoedd y flwyddyn er mwyn sicrhau nad oes tân yn dechrau yn eu hadeiladau, gan fyw a chysgu gan ofni’r gwaethaf.

“Mae’n rhaid iddyn nhw dalu am yswiriant sydd ddim yn eu diogelu. Mae nifer o’r adeiladau hyn o fewn ychydig funudau o gerdded i’r Senedd, ond eto mae yna ddifaterwch syfrdanol a diffyg brys o ran Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â’r anghyfiawnder enfawr hwn.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol, ynghyd ag ymgyrchwyr cladin a diogelwch adeiladau, yn dweud bod datblygwyr wedi cael digon o amser, mae hi’n amser i Lywodraeth Cymru stopio siarad a chymryd camau gwirioneddol i ddod â’r argyfwng i ben.”

Ar ôl Trychineb Grenfell cafodd diffygion diogelwch tân a chladin fflamadwy eu darganfod mewn nifer o adeiladau a blociau o fflatiau dros y Deyrnas Unedig.

‘Barod i ddefnyddio pob pŵer’

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi dweud yn glir na ddylai lesddeiliaid orfod talu i gywiro diffygion diogelwch tân pan mai nad nhw sydd ar fai.

“Rydyn ni’n buddsoddi £375m dros y tair blynedd nesaf i wella diogelwch adeiladau,” meddai.

“Rydyn ni wedi gofyn i ddatblygwyr arwyddo ymrwymiad i gywiro problemau gyda diogelwch tân mewn adeiladau, sy’n 11 medr neu uwch, y maen nhw wedi’u datblygu yng Nghymru dros y 30 mlynedd ddiwethaf.

“Dydy pum datblygwr dal heb gysylltu â ni ynghylch y mater pwysig hwn.

“Rydyn ni’n barod i ddefnyddio pob pŵer posib, gan gynnwys deddfwriaeth, i sicrhau eu bod nhw’n cymryd cyfrifoldeb.”

‘Angen mynd i’r afael â chladin peryglus ar fwy o frys’

Bum mlynedd wedi Trychineb Grenfell, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu arian yn gynt ac yn fwy effeithiol