Wrth i Boris Johnson adael Rhif 10 Stryd Downing am y tro olaf ddechrau’r wythnos, roedd yna ddyn arall na fyddai’n dychwelyd, un sy’n gyfarwydd iawn i ni yma yng Nghymru.

Roedd ei amser yn Rhif 10 yn “llawer rhy fyr” yn ôl Guto Harri, ac mae wedi cyhuddo’r Ceidwadwyr o “ddangos awydd i achosi niwed i’w hunain” wrth iddo gamu’n ôl o’r byd gwleidyddol… am y tro beth bynnag.