Ychydig iawn a wyddom am fryngaerau Cymru, ond mae un prosiect yn Aberystwyth yn gobeithio unioni’r cam hwnnw.
Er i safle Pen Dinas ym Mhenparcau gael ei chloddio yn y 1930au, mae yna ddirgelwch yn perthyn i’r fryngaer yn dal i fod.
Mae’r fryngaer yn dyddio’n ôl i’r Oes Haearn, y cyfnod rhwng 600 Cyn Crist a 43 Oed Crist, a nod partneriaeth newydd rhwng Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yw taflu mwy o oleuni ar yr hanes.