Kim Jones, Cynghorydd Sir Llanberis a Nant Peris, sy’n trafod effaith ymwelwyr ar ardal o Wynedd welodd brysurdeb rhyfeddol yn y blynyddoedd diweddar…

Wrth i’r haf ddirwyn i ben, gyda’r plant yn dychwelyd yn ôl i’w hysgolion a rhieni’n ôl i’w swyddi, fe fydd rhai o ardaloedd mwyaf poblogaidd Cymru yn anadlu ochenaid o ryddhad.