Rydym yn codi’r wal dalu ar y golofn ganlynol, sydd yn y cylchgrawn cyfredol, i bawb gael blas ar yr arlwy…
Gair o gyngor gan Marlyn Samuel
Yr wythnos hon, yr awdur Marlyn Samuel, sy’n byw ger Gaerwen yn Ynys Môn, sy’n rhoi cyngor am sut i ddelio efo darpar fam yng nghyfraith sydd eisiau’r gair ola’…
Annwyl Marlyn,
Dw i’n 45 oed a newydd ddyweddïo – dyma fydd fy ail briodas. Wnes i gwrdd â fy narpar ŵr tua blwyddyn a hanner yn ôl ac mae wedi bod yn dipyn o whirlwind romance. Gan fy mod i wedi bod yn briod o’r blaen dw i’n awyddus i gael priodas fach efo jest llond llaw o ffrindiau a theulu y tro yma, efallai rywle dramor. Ond mae fy narpar fam yng nghyfraith, sydd yn ei saithdegau, eisiau sbloets fawr i’w hunig blentyn. Dyma ydy priodas gyntaf fy narpar ŵr. Mae hi eisiau i ni briodi yn y capel lleol efo ryw 150 o westeion – lot ohonyn nhw yn ffrindiau iddi hi a theulu dw i erioed wedi cwrdd â nhw! Mae fy narpar ŵr yn cytuno gyda’i fam ac yn dweud mai hi ddylai gael y gair olaf – mae hi wedi cynnig talu am y syrcas felly mae’n anodd dadlau am hynny. Dw i’n siomedig bod fy narpar ŵr wedi ochri gyda’i fam ac wedi anwybyddu be dw i eisiau. Dw i’n poeni bod hyn yn argoeli’n wael ar gyfer ein perthynas ni yn y dyfodol. Sut mae datrys hyn heb achosi rhwyg rhyngddon ni?
Ga’i yn gyntaf eich llongyfarch chi’n fawr iawn ar eich dyweddïad diweddar, er mae’n ddrwg gen i glywed fod dymuniadau eich darpar fam yng nghyfraith ac ymateb eich dyweddi ynglŷn ȃ’r briodas yn tynnu rhywfaint o sglein oddi ar bethau.
Mae’n ddiddorol sylwi nad ydi’ch darpar ŵr wedi bod yn briod o’r blaen. Tydach chi chwaith ddim yn sôn os ydi o wedi bod mewn perthynas hir efo rhywun arall cyn i chi’ch dau gyfarfod. Mae’n amlwg fod ganddo berthynas agos iawn efo’i fam a’i fod, hyd yma, yn dibynnu’n fawr ar ei barn.
Y gwir amdani ydi mai dim eich darpar fam yng nghyfraith ydi’r broblem yn y bôn ond y ffaith fod eich darpar ŵr yn cefnogi ac yn ochri efo’i fam. Deallaf yn iawn eich bod yn siomedig, mae hynny’n gwbl naturiol. Fel ei ddyweddi, a’r ferch mae’n ei garu, mi ddylai eich teimladau a’ch dymuniadau chi fod yn flaenoriaeth ganddo fo.
Dw i’n awgrymu’n gryf eich bod chi’n siarad efo’ch darpar ŵr a dweud wrtho fod yr holl sefyllfa yn eich poeni chi’n fawr. Mae’n rhaid iddo sylweddoli fod angen i bethau newid. Mae’n rhaid iddo sylweddoli a deall mai chi ddylai ddod gyntaf yn ei fywyd bellach, nid ei fam. Cofiwch yr hen ddihareb honno, a son is a son till he takes him a wife. Mae’n rhaid i’ch darpar ŵr eich cefnogi chi gant y cant. Mae’n rhaid i chi’ch dau roi ffrynt unedig o flaen ei fam a dweud yn glên wrthi, er eich bod chi’n gwerthfawrogi ei haelioni i dalu am briodas fawr, penderfyniad y ddau ohonoch chi ydi cytuno ar sut fath o briodas y dylech chi ei chael.
Fy mhryder i ydi, os caiff ei fam ei ffordd ynglŷn ȃ’r briodas, dim ond dechrau eich gofidiau fydd hynny. Ar ôl i chi briodi, a fydd hi’n mynnu cael y gair olaf ynglŷn ȃ materion eraill? Fydd eich darpar ŵr angen sêl bendith ei fam ynglŷn ȃ phenderfyniadau mawr a bach eraill y byddwch chi’n debygol o’u gwneud, megis symud tŷ, mynd ar wyliau, newid car neu hyd yn oed pa liw papur wal i’w ddewis?
Tywysoges
Tydach chi ddim yn sôn os mai gwraig weddw ydi hi. Efallai ei bod yn teimlo’n unig a bod trefnu sbloets fawr o briodas yn llenwi’r gwacter yn ei bywyd? Efallai hefyd nad ydi hi wedi bod dramor o’r blaen a’i bod yn teimlo’n nerfus ynglŷn ȃ hedfan? Efallai bod eich dyweddi yn teimlo rywfaint yn euog fod ganddo ddynes arall bellach yn ei fywyd ac efallai dyna pam mae’n fodlon ochri efo hi er mwyn lleddfu rhywfaint ar ei gydwybod?
Mae rhywun yn deall ac yn gwerthfawrogi awydd eich darpar fam yng nghyfraith i ddathlu bod ei hunig fab yn priodi, ond yn hytrach na chynnal sbloets o briodas fawr beth am i chi awgrymu a dod i gyfaddawd drwy gynnig eich bod chi’n cynnal parti mawr i bawb ar ôl i chi ddod yn ôl o’ch mis mêl? Mae hi hefyd yn swnio fel gwraig sydd wedi arfer trefnu pawb a phopeth. Er mwyn iddi hi felly deimlo’n rhan o’r trefniadau beth am i chi sôn wrthi y bysa chi’n gwerthfawrogi’n fawr ei chymorth gyda’r trefniadau a’i gwahodd i ddod efo chi i ddewis eich ffrog ag ati?
Ond fel y soniais yn gynharach, y peth pwysicaf ydi eich bod chi’n cael cefnogaeth eich dyweddi ynglŷn ȃ hyn a’ch bod chi’ch dau ar yr un dudalen. Fel ddeudodd un dywysoges unwaith: “There were three of us in this marriage, so it was a bit crowded.” Gwyliwch nad ydi hynny’n mynd i fod yn wir am eich priodas chi!
Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We
Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn: