Diolch i Huw Onllwyn [‘Putin, pris nwy a’r poeni am filiau’, Golwg 01/09/22] am roi i ni flas o’r caledi a fu yn Rhiwbeina adeg gaeafau llym y ganrif ddiwetha’. Daeth deigryn i’m llygad wrth i mi ei ddychmygu, fel macwy Wenceslas, yn cribinio Coed y Wenallt a Choed Coesau Whips am bren i fwydo tân truenus a phitw ei deulu.