Ynghylch yr alwad ar Jonathan Edwards i ymddiswyddo [o’i waith yn Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr].

Fe ymddengys bod Plaid Cymru wedi gadael i Jonathan Edwards ail ymuno, ar ôl iddo dderbyn rhybudd swyddogol gan yr heddlu am ymosod ar ei wraig Emma Edwards yn ei chartref yn 2020.

Mae hyn yn anfon y neges anghywir i oroeswyr trais yn y cartref a dw i yn meddwl y gallai Plaid Cymru fod wedi ymdrin â’r achos yma yn well.