Diddorol oedd darllen yr holl drafod fu ar gynnwys Saesneg mewn nofelau Cymraeg yn dilyn Cystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Nhregaron eleni.

Y mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol ei ‘Rheolau ac Amodau Cyffredinol’ ac mae rhan o rif 10 yn darllen fel hyn:

(ii) … Yn achos y cystadlaethau cyfansoddi, dylai unrhyw ddefnydd o iaith ar wahân i’r Gymraeg fod yn brin iawn…