Mae hi wedi bod yn ffenestr drosglwyddo nodedig gyda sawl clwb Uwch Gynghrair Lloegr yn gwario miliynau o bunnoedd ar chwaraewyr newydd i wella eu tîm. Ac yng nghyd-destun Cymru, mae bron i hanner y garfan a chwaraeodd yn erbyn Wcráin ym mis Mehefin wedi newid clybiau.

Mae Ethan Ampadu wedi ymuno â Spezia yn yr Eidal. Nid clwb enwog mo’r tîm o Leguria, ond maen nhw’n chwarae yn erbyn cewri Serie A ac fe fydd Ethan yn dechrau bob gêm, sydd yn amlwg yn mynd i’w helpu.