Chwarae teg i Liz, does ganddi hi ddim gobaith. Y gwir plaen ydi na fyddai’r un Prif Weinidog, o unrhyw blaid, yn gallu cynnig atebion hawdd i’r pentwr o argyfyngau sy’n wynebu tenant newydd rhif 10 Downing Street.

Y cwestiwn mawr yn ei hachos hi ydi: a fydd hi’n gwneud pethau’n waeth? Ac, os felly, faint gwaeth, ac i bwy?