Pan ddaeth y newyddion bod Radio Cymru’n ehangu oriau darlledu Radio Cymru 2, gan addo cynnydd yn y dewis i’r gynulleidfa radio Gymraeg, roeddwn i wrth fy modd.

Fe dybiais y byddai’r cynnydd mewn rhaglenni wedi eu seilio ar gerddoriaeth ar Radio Cymru 2 yn rhyddhau amser ar gyfer rhaglenni newydd, mwy swmpus ar Radio Cymru 1.

Fe ddechreuais i edrych ymlaen at fwy o raglenni arbenigol, fel y rhai sydd ar Radio 4, ac fel y bu gan Radio Cymru slawer dydd.