Gallaf ddychmygu nad yw pob darllenwr brwd o gylchgrawn Golwg yn dathlu’r ffaith mai Liz Truss yw ein Prif Weinidog newydd. Yn wir, mae’n bosib bod rhai ohonoch wedi dweud ambell i beth angharedig amdani.

Ta waeth, Liz sydd bellach yn byw yn y fflat yn Stryd Downing, yn wynebu’r hyn a elwir gan Laura Kuenssberg yn ‘the in-tray from hell’.

Ond heblaw am ei gwaith yng nghyswllt y Deyrnas Unedig, beth yw’r oblygiadau penodol i ni yng Nghymru fach?