Mae penderfyniad diweddar Radio Cymru i gladdu ambell raglen wedi esgor ar gwyno rhyfeddol.

Bu i filoedd arwyddo deiseb yn erfyn am beidio rhoi’r fwyell i raglen gyda’r nos Geraint Lloyd.

Ac mae’r da a’r daionus o fyd Y Pethe wedi eu cynddeiriogi gyda’r penderfyniad i hel rhaglen Stiwdio allan o’r… stiwdio.

Dyma oedd llwyfan Radio Cymru ar gyfer trafod llyfrau, dramâu a’r sîn gelfyddydol drwyddi draw yng Nghymru.