Agos yw’r awr fawr pan fydd angen dewis carfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd. Gwilym Dwyfor sydd wedi bod yn cadw golwg ar y chwaraewyr ar gychwyn y tymor newydd…

Pythefnos sydd i fynd tan gêm nesaf Cymru (ar nos Iau, 22 Medi), oddi cartref yng Ngwlad Belg. Y gêm honno ym Mrwsel a’r un gartref yn erbyn Gwlad Pwyl dridiau’n ddiweddarach fydd gemau olaf Cymru cyn i Rob Page enwi ei garfan ar gyfer Cwpan y Byd.