Mae gyrfa seryddwr ifanc o Gwm Gwendraeth ar ei ffordd i’r entrych…  

Ar Faes yr Eisteddfod yn Llanrwst yn 2019, roedd astroffisegydd o’r enw Eleri Pryse yn rhoi sgwrs ar y testun ‘Ar Ymyl y Gofod’. Ar ddiwedd ei darlith, dywedodd bod eisiau denu rhagor o ferched i astudio ym maes seryddiaeth.