Gwenllïan Llwyd a enillodd wobr ‘Ysbryd y Frwydr’ y Lle Celf ar y Maes yn Nhregaron – gwobr a roddir am gelf ‘sy’n cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru’, – am ei gwaith ffilm ‘Mamiaith’.

Ar ei ffilm, sy’n cael ei gyflwyno drwy gyfres o sgriniau, mae nifer o fenywod a fuodd yn ymgyrchu ac yng ngharchar dros yr iaith yn sgwrsio am eu profiadau. Yn eu plith, Angharad Tomos, Helen Prosser, a mam yr artist, Enfys Llwyd.