Fe ymddangosodd y Darn Barn yma gyntaf yng nghylchgrawn Golwg, ac rydym yn ei gyhoeddi fan hyn heb y wal dalu, i bawb gael blas o’r arlwy…

Dr Simon Brooks yw Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg sydd ar fin cyfarfod am y tro cyntaf. Yma, mae’n esbonio pam y sefydlwyd y Comisiwn a beth mae’n gobeithio ei gyflawni…

Yn yr Eisteddfod, lansiwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Jeremy Miles AoS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Gwaith y Comisiwn fydd craffu ar yr heriau sy’n wynebu ein cymunedau Cymraeg, ac yna gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru gyda’r nod o gryfhau’r cymunedau hynny.

Simon Brooks

Ers hanner canrif a mwy, bu dirywiad yng nghryfder y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae’r rhesymau am hyn yn gymhleth, ond maen nhw’n ymwneud yn bennaf â gwendidau economaidd strwythurol yn ein cymunedau Cymraeg. Wrth gwrs, bu methiannau i gryfhau statws y Gymraeg ac ymestyn addysg Gymraeg mewn rhai cymunedau yn cyfrannu at y broblem hefyd.

Yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf, hoeliwyd sylw ar y gwendidau hyn oherwydd bod newidiadau cymdeithasol wedi dwysáu. Newidiodd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd gyd-destun economaidd ein cymunedau. Yna, daeth Covid-19. Arweiniodd hynny at awydd ymysg llawer i symud o ardaloedd trefol i lan môr neu gefn gwlad i fyw, neu i gael ail gartref yno. Wedyn, bu problemau difrifol yn y farchnad dai. Ac yn awr mae’n debyg fod cyfnod o gyni economaidd ar y gorwel hefyd a chostau byw yn amlwg yn cynyddu. Y peryg yw y gallai rhai sefyllfaoedd sosio-economaidd newydd, ac yn enwedig ym maes tai a’r economi, fod yn niweidiol i gynaliadwyedd ein cymunedau Cymraeg.

Nid yw’r darlun yn ddu i gyd. Mae symud gweithleoedd ar-lein yn lleihau’r pellter rhwng ein bröydd Cymraeg traddodiadol a’r farchnad waith mewn rhai sectorau o’r economi o leia’, a gallai hynny fod yn fodd i gadw mwy o bobl ifanc yn ein cymunedau yn y dyfodol.

Ond bydd hefyd yn golygu fod mwy o newydd-ddyfodiaid yn ymgartrefu yn ein hardaloedd Cymraeg. Wedi’r cwbl, maen nhw’n llefydd hyfryd i fyw ac i weithio. Ac mae hynny’n codi cwestiynau pwysig megis beth sy’n gorfod cael ei wneud er mwyn sicrhau system addysg ddigon gwydn i Gymreigio nifer cynyddol o blant sy’n dod o aelwydydd di-Gymraeg.

Mae’n amserol felly ein bod ni yn edrych unwaith eto ar sefyllfa ein cymunedau Cymraeg. Mae amodau cymdeithasol newydd yn gofyn yn aml am atebion newydd, a dyna’r cyfiawnhad dros sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Rhaid cofio fod Cymraeg 2050, strategaeth Llywodraeth Cymru o ran dyfodol y Gymraeg, am weld cynnydd nid yn unig yn y niferoedd sy’n siarad Cymraeg ond hefyd ddyblu’r defnydd dyddiol ohoni. Bydd yn anodd cynyddu defnydd heb sefydlogi’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd traddodiadol.

Wrth inni chwilio am atebion, mae’n bwysig nodi na fydd y Comisiwn yn argymell sefydlu Gaeltacht Cymraeg. Dydyn ni ddim eisiau rhannu Cymru’n ddau barth ieithyddol.

Mae’r Gymraeg yn perthyn i Gymru gyfan, ac i bawb sy’n byw yma, ac mae’n perthyn hefyd wrth gwrs i siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru, ac yn wir i bawb sy’n ei choleddu, lle bynnag maen nhw’n byw yn y byd.

Mae’r Comisiwn am weld cymunedau Cymraeg croesawgar ac agored; cymdeithas gynhwysol sy’n dathlu amrywiaeth a chydraddoldeb o’i mewn, ac sy’n byw ochr-yn-ochr â chymunedau eraill mewn cytgord.

Ac er mwyn cadw’r Gymraeg yn iaith i Gymru gyfan, mae’n rhaid inni ei meithrin ymhob rhan o Gymru, ac mae hynny’n cynnwys ein cymunedau Cymraeg sydd o dan bwysau difrifol ar hyn o bryd. Mae cryfhau’n hiaith yn ei chadarnleoedd yn rhan o’r gwaith o’i chryfhau i bawb, ymhob man.

Argyfwng yn y cadarnleoedd

Bydd dau gam i waith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Bydd y cam cyntaf yn craffu ar y Gymraeg fel iaith gymunedol diriogaethol, ond bydd ail gam wedyn, sef edrych ar y defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg mewn rhannau eraill o Gymru. Y rheswm dros edrych ar ein cymunedau Cymraeg tiriogaethol yn gyntaf yw fod argyfwng yno ar hyn o bryd.

Mae’n bosibl y bydd angen i ni ddatblygu polisi cyhoeddus yn ein cymunedau Cymraeg ag iddo bwyslais gwahanol ar adegau i bolisi mewn rhannau eraill o Gymru. Yn y maes ail gartrefi, er enghraifft, mae gan Lywodraeth Cymru bolisi cenedlaethol, ond mae’n caniatáu amrywiadau lleol o ran sut mae’r polisi yn cael ei weithredu am fod y sefyllfa o ran ail gartrefi mewn rhannau gwahanol o Gymru mor wahanol.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi datblygu polisïau eraill sy’n cydnabod anghenion arbennig, fel yr ymgynghoriad diweddar ar y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg. A hwyrach y bydd angen mabwysiadu polisïau rhanbarthol neu leol mewn meysydd eraill yn ogystal. Yn sgil cyhoeddi canlyniadau cyfrifiad 2021, byddwn yn gofyn a oes modd adnabod ardaloedd lle bydd angen cymryd camau pwrpasol iawn er mwyn cefnogi a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Pwy yw’r Comisiynwyr?

Mae’r Llywodraeth wedi penodi arbenigwyr gyda phrofiadau helaeth o bolisi cyhoeddus yn y broydd Cymraeg i wasanaethu fel comisiynwyr ar y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Yr aelodau yw Talat Chaudhri [Maer Aberystwyth, academydd a Chadeirydd y think tank Melin Drafod], Dr Lowri Cunnington Wynn [Darlithwraig Troseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth], Cynog Dafis [y cyn-Aelod Seneddol/Cynulliad], Meinir Ebbsworth [Prif Swyddog Addysg Cyngor Ceredigion], Delyth Evans [cyn-Ddirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru tros Amaeth, Diwylliant a’r Amgylchedd], Dafydd Gruffydd [Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn], Myfanwy Jones [Swyddog Iaith yn Sir Gaerfyrddin], Shan Lloyd Williams [Prif Weithredwr grŵp tai Cynefin], Cris Tomos [cyn-aelod o Gabinet Cyngor Sir Benfro] a Rhys Tudur [Cynghorydd sir Llanystumdwy ar Gyngor Gwynedd]. Fel Cadeirydd y Comisiwn, dwi’n hynod ddiolchgar iddynt am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at y gwaith.

Bydd y Comisiwn yn cwrdd am y tro cyntaf yn ystod y dyddiau nesaf, a byddwn yn cychwyn ar y gwaith yn syth. Byddwn ar gael i roi cyngor i’r Llywodraeth yn ôl y galw, ond y prif nod yw paratoi adroddiad cynhwysfawr fydd yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Bu cymunedau Cymraeg yn bodoli ers rhyw fil a hanner o flynyddoedd. Maen nhw’n rhan unigryw a gwerthfawr o amrywiaeth ddiwylliannol y ddynoliaeth, ac mae gennym ddyletswydd i’w gwarchod – a’u meithrin – ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Gadewch inni weithio gyda’n gilydd felly, i greu dyfodol ffyniannus i’r Gymraeg fel iaith gymunedol, i bob un ohonon ni.

Cylchgrawn Golwg yn ddigidol ar y We

Os ydych chi eisiau darllen erthyglau cylchgrawn Golwg ar y We, ewch i fan hyn:

Tanysgrifiwch i Golwg a Golwg+ (360.cymru)