Fe fydd Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig yn “crafu gwaelod y gasgen” wrth iddi fynd ati i ffurfio Llywodraeth, yn ôl Hywel Williams.

Aeth Liz Truss draw at y Frenhines yng Nghastell Balmoral ddechrau’r wythnos, gan dderbyn gwahoddiad i ffurfio Llywodraeth a dechrau enwi ei chabinet.

Dyw Aelod Seneddol Arfon ddim yn eiddigeddus o’r dasg honno, er ei fod yn cydnabod fod yna “ambell un galluog yna”.