Gall busnesau neu unigolion sydd â chynllun arloesol i gynyddu’r defnydd bob dydd o’r Gymraeg mewn ffordd hygyrch dderbyn hyd at £50,000 drwy her newydd.
Mae parc gwyddoniaeth M-SParc ar Ynys Môn a Llywodraeth Cymru’n cydweithio i gynnal ail Hac y Gymraeg, ac yn galw am geisiadau gan bobol sydd â syniadau ar sut i hyrwyddo’r iaith.
Gwneud y Gymraeg yn hygyrch ydy’r pwyslais eleni, ac mae’n bosib i bobol rannu eu syniadau tan Chwefror 1.
Bydd y syniadau gorau yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiad pitsho o flaen panel o feirniaid, a bydd y buddugwyr yn cael arian i ddod â’u syniad yn fyw.
“Hwn ydy’r ail Hac y Gymraeg rydyn ni wedi’i wneud ac rydyn ni’n gweithio’n agos iawn efo Llywodraeth Cymru, oherwydd arian ganddyn nhw ydyn ni wedi’i gael er mwyn hybu arloesedd yn yr iaith Gymraeg,” meddai Emily Roberts, Rheolwr Gwaith Allanol a Chymuned M-SParc, wrth golwg360.
“Y tro yma, rydyn ni’n chwilio am syniadau hygyrch i helpu mwy o bobol i fedru siarad Cymraeg o ddydd i ddydd.
“Mae’n eithaf agored, ac mae hynny’n fwriadol achos rydyn ni eisiau gwybod pa fath o syniadau mae pobol wrthi’n gweithio arnyn nhw’n barod neu efo yn eu pennau ond heb yr arian a’r gefnogaeth i fynd â nhw yn eu blaen.
“Rydyn ni’n gobeithio tynnu’r rheiny allan, dod â nhw i’r amlwg, a rhoi’r cymorth iddyn nhw.”
Enghraifft fyddai edrych ar iaith arwyddo, meddai Emily Roberts.
“Fel enghraifft, BSL (Iaith Arwyddo Prydain), dydy hwnnw ddim yn Gymraeg,” eglura.
“Os oes gennych chi deulu Cymraeg sy’n cael plentyn byddar, maen nhw’n gorfod dysgu nhw mewn Saesneg i bob pwrpas. Ond mae yna bobol yn gwneud datrysiadau i gyfieithu hwnna i Gymraeg.
“Y math yna o beth, ond rydyn ni hefyd yn cadw meddwl eithaf agored achos rydyn ni eisiau gweld pa ddatrysiadau mae pobol yn gallu dod fyny efo nhw, yn hytrach na ni’n bwydo nhw ac yn dweud yn union be rydyn ni eisiau.”
‘Hwb i’r economi hefyd’
Er mwyn creu datrysiadau y gall pawb eu defnyddio o ddydd i ddydd, a hybu arloesedd, y nod gan Lywodraeth Cymru ydy rhoi’r arian a’r cymorth i bobol sydd â’r arbenigedd a’r gallu i droi syniadau’n realiti.
“Mae hynna’n rhoi hwb i’r economi Gymraeg wrth gwrs, oherwydd eu bod nhw’n cael arian ac yn annog pobol i ddatblygu neu hyd yn oed gychwyn busnes eu hunain er mwyn creu’r datrysiadau yma,” eglura Emily Roberts.
“Mae o arnom ni i gyd mewn ffordd, fel pobol yng Nghymru, os ydyn ni eisiau parhau â’r iaith fedrwn ni ddim disgwyl i’r Llywodraeth ddweud wrthym ni’n union beth i’w wneud – mae pobol efo syniadau eu hunain.
“Rhan o gefnogi hynna ydy’r Hac yma.”
Yr hac gyntaf
Daeth dau ddatrysiad o’r hac gyntaf, a’r bwriad bryd hynny oedd annog pobol oedd yn siarad Cymraeg yn barod i ddefnyddio mwy o’r iaith o ddydd i ddydd.
Fe wnaeth un cwmni ddatblygu system we sy’n cydweithio â system ysgolion er mwyn caniatáu i blant ddarllen llyfrau ar-lein, ac roedd y syniad arall yn edrych ar ddefnydd plant yn eu harddegau o’r iaith.
“Os ydych chi’n dysgu Cymraeg mae o’n dweud y geiriau wrthych chi, ac mae’n ffordd arbennig o fynd drwy’r stori a chael rhieni a phlant i siarad mwy o Gymraeg efo’i gilydd,” meddai Emily Roberts wrth egluro’r datrysiad cyntaf.
“Gaethon ni ddatrysiad arall gan gwmni o’r enw Mwydro, a be oedd hi eisiau ei wneud oedd helpu mwy o bobol ifanc i ddefnyddio Cymraeg.
“Mae yna lot o bobol ifanc yn teimlo’n rhyfedd yn defnyddio’r enw cywir ar bethau, fel Porthaethwy yn lle Menai Bridge.
“Be mae hi wedi’i wneud ydy edrych ar y cyfryngau cymdeithasol, ac mae hi am weithio efo grwpiau o bobol ifanc i ffeindio lleoliadau maen nhw’n mynd fel arfer a chreu sticeri [digidol] fedran nhw roi ar hyd y cyfryngau cymdeithasol i ddangos lle maen nhw, a chydweithio fel yna i wneud o’n Gymraeg a theimlo eu bod nhw’n cael perthyn i’r iaith a’i defnyddio hi fwy o ddydd i ddydd.”