Mae teyrngedau wedi cael eu talu i gyn-olygydd gorsaf Radio Cymru Aled Glynne Davies, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel dyn “arloesol, egnïol ac angerddol”.

Cafodd corff y gŵr 65 oed ei ddarganfod ym Mae Caerdydd heddiw (Ionawr 4), yn dilyn ymdrechion i ddod o hyd iddo yng Nghaerdydd.

Roedd cyn-olygydd gorsaf Radio Cymru wedi bod ar goll ers Nos Galan, ar ôl cael ei weld ddiwethaf ym Mhontcanna nos Sadwrn, Rhagfyr 31.

Mae’r teulu bellach wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ddarganfod, ac mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw’n diolch i bawb em eu hymdrechion wrth geisio dod o hyd iddo.

Bu Aled Glynne Davies yn olygydd ar Radio Cymru rhwng 1995 a 2006, a bu yn gweithio ar wasanaethau newyddion y BBC ac S4C hefyd.

Bu’n arwain y tîm a sefydlodd gwefan Gymraeg gyntaf y BBC, Cymru’r Byd, ac yn fwy diweddar, sefydlodd gwmni cynhyrchu, Goriad, gan weithio ar gynyrchiadau teledu a radio gan gynnwys rhaglen Bore Sul i Radio Cymru.

Roedd ei deulu, yr heddlu, ac aelodau’r cyhoedd wedi bod yn ceisio dod o hyd iddo ers Nos Galan.

“Ysbrydoli pobol eraill”

Un fu’n gweithio gydag Aled Glynne Davies yn Radio Cymru am gyfnod oedd Dylan Iorwerth, un o sylfaenwyr Golwg.

“Roedd Aled a finnau wedi dechrau fwy neu lai’r un pryd yn adran newyddion Radio Cymru ac roedd o’n chwa o awyr iach o fewn y BBC,” meddai wrth golwg360.

“Ac yntau wedi ei drwytho mewn newyddiaduraeth gan ei dad, T. Glynne Davies, ac wedyn radio masnachol, roedd yn credu yn angerddol ym mhwysigrwydd pobol ac mewn creu deunydd poblogaidd yn Gymraeg.

“Roedd ganddo’r gallu i ennill ymddiriedaeth pobol a’u cael i siarad yn agored a chynnes, ond heb erioed eu defnyddio.

“Roedd yn ddyn annwyl iawn ac yn llawn direidi ond, ar yr un pryd, yn hollol o ddifri ynglŷn â safonau ei waith ei hun a phobol eraill.

“Pan ddaeth yn Olygydd Radio Cymru, roedd ganddo fo’r dewrder i ddilyn ei egwyddorion a thrawsnewid y gwasanaeth.

“Ym mhopeth yr oedd o’n ei wneud, mi roedd o’n frwd, yn gefnogol ac yn ysbrydoli pobol eraill.”

“Arloesol, egnïol ac angerddol”

Roedd Aled Glynne Davies yn olygydd “arloesol, egnïol ac angerddol”, medd Cyfarwyddwr BBC Cymru Rhuanedd Richards.

“Ar ran holl staff BBC Cymru, rwy’n anfon ein cydymdeimlad dwysaf at wraig Aled, Afryl, at ei blant, Gwenllian a Gruff, a’i wyrion yn dilyn y newyddion trist hwn,” meddai.

“Roedd Aled yn olygydd arloesol, egnïol ac angerddol yn ystod ei gyfnod wrth y llyw yn arwain BBC Radio Cymru rhwng 1995 a 2006.

“Ei nod bob amser oedd creu cynnwys a fyddai’n denu siaradwyr Cymraeg newydd i’r gwasanaeth, a sicrhau fod yr orsaf yn apelio at fwy o bobol iau.

“Roedd Aled bob amser yn fy annog i ac eraill i gymryd penderfyniadau golygyddol dewr er mwyn ehangu apêl y gwasanaeth cenedlaethol ac mae cymaint ohonom sy’n gweithio yn y byd darlledu yn ddiolchgar am ei gefnogaeth a’i anogaeth ddiflino ar hyd y blynyddoedd.

“Ers gadael y BBC a sefydlu cwmni Goriad, mae Aled a’i wraig Afryl wedi cynhyrchu cynnwys rhagorol i’r radio a theledu, a’r ddau wedi cynhyrchu rhaglenni poblogaidd Bore Sul Radio Cymru yn ddiweddar.

“Mi fyddwn yn gweld eisiau cwmni a chyfeillgarwch Aled, ynghyd â’i greadigrwydd a’i allu newyddiadurol. Mi fydd yn golled fawr i’r byd darlledu ac i’r iaith Gymraeg.”

“Colled enfawr”

Wrth dalu teyrnged i Aled Glynne Davies, dywedodd Aelod o’r Senedd Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: “Yn meddwl am deulu Aled Glynne heno ac yn anfon fy nghydymdeimlad dwysaf atyn nhw.

“Byddaf yn ei gofio am fod mor frwdfrydig a llon, ac mor gefnogol – Aled roddodd fy swydd gyntaf fel newyddiadurwr llawn amser i mi, a byddaf yn ddiolchgar iddo wastad.”

Yn y cyfamser, dywed y cyflwynydd newyddion, Huw Edwards: “Newyddion torcalonnus. Roedd Aled yn gynhyrchydd ac yn newyddiadurwr o allu sylweddol.

“Roedd hefyd yn berson hael a charedig. Colled enfawr i’w deulu a’i gyfeillion.”

Un arall sydd wedi talu teyrnged iddo yw arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

“Newyddion hynod drist a thorcalonnus,” meddai.

“Mae fy meddyliau a fy ngweddïau gydag Afryl a’r plant a ffrindiau oll Aled. Dyn caredig ac annwyl dros ben. Yn golled enfawr.”

Darganfod corff Aled Glynne Davies ym Mae Caerdydd

Roedd cyn-Olygydd Radio Cymru wedi bod ar goll ers Nos Galan, ar ôl cael ei weld ddiwethaf ym Mhontcanna yng Nghaerdydd