Mae Plaid Cymru’n cyhuddo Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, o fod “ar goll”, gan alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu “ar frys”.

Yn ôl Rhun ap Iorwerth, llefarydd iechyd y blaid, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn “ddi-rym”, ond dydy Eluned Morgan “ddim i’w gweld yn unlle”.

Daw’r alwad wrth i Gyfarwyddwr Conffederasiwn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ddisgrifio’r Gwasanaeth Iechyd fel un sydd “ar ymyl y dibyn” yn nhermau ei allu i ymdopi â’r “lefelau uchaf o bwysau”.

Yn ôl Plaid Cymru, er bod tair stori dros y dyddiau diwethaf am y Gwasanaeth Iechyd, dydy’r Ysgrifennydd Iechyd ddim wedi ymateb i’r un ohonyn nhw a dydy hi ddim wedi gwneud unrhyw gyfweliadau.

Yn ystod y sesiwn holi yng nghyfarfod llawn ola’r Senedd yn 2022, roedd Eluned Morgan yn dweud ei bod hi’n “gobeithio” y byddai’r Gwasanaeth Iechyd yn gwella erbyn i’r Senedd gyfarfod eto yn y flwyddyn newydd.

Ond yn ôl Rhun ap Iorwerth, dydy’r Gwasanaeth Iechyd “ddim yn mynd i oresgyn ei broblemau os ydi’r Gweinidog ond yn gobeithio am y gorau”.

‘Ymateb brys a phenderfynol’

“Pan fo arbenigwyr yn defnyddio termau fel ‘ymyl y dibyn’ ac ‘ar fin torri’ i ddisgrifio cyflwr difrifol y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, mae’n gofyn am ymateb brys a phenderfynol gan Lywodraeth Cymru,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Ond eto i gyd, dydi ein Gweinidog Iechyd – ddylai fod yn weladwy, fan lleiaf – ddim i’w gweld yn unlle.

“Bellach, mae’n rhaid i’n gweithwyr iechyd a gofal arwrol, sydd nid yn unig yn ymdopi â phwysau eithriadol yn sgil galw cynyddol a phrinder staff, ddod ymlaen i wneud cyfweliadau teledu.

“Yn y cyfamser, mae’r Gweinidog Iechyd ar goll.

“Dydi hi ddim yn ddigon da i Lywodraeth Cymru roi’r bai ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig – tra ei bod hi’n wir fod gan San Steffan linynnau’r pwrs, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn ddi-rym er mwyn gallu gweithredu.

“Fe fu Plaid Cymru’n galw arnyn nhw ers tro i ddefnyddio’r holl lifrau sydd ganddyn nhw i wneud rhywbeth – unrhyw beth – i ddangos eu bod nhw’n gwrando a bod ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn flaenoriaeth iddyn nhw.”

Ymateb

“Mae’r Gweinidog Iechyd yn brysur yr wythnos hon yn cwrdd â swyddogion y GIG ac yn ymweld ag ysbytai er mwyn cwrdd â staff GIG Cymru sy’n gweithio’n galed,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth golwg360.