Mae corff Aled Glynne Davies wedi cael ei ddarganfod ym Mae Caerdydd, yn dilyn ymdrechion i ddod o hyd iddo yng Nghaerdydd.

Roedd cyn-olygydd 65 oed gorsaf Radio Cymru wedi bod ar goll ers Nos Galan, ar ôl cael ei weld ddiwethaf ym Mhontcanna nos Sadwrn, Rhagfyr 31.

Mae’r teulu bellach wedi cadarnhau bod corff wedi cael ei ddarganfod, ac mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, maen nhw yn diolch i bawb em eu hymdrechion wrth geisio dod o hyd iddo.

Bu Aled Glynne Davies yn olygydd ar Radio Cymru rhwng 1995 a 2006, a bu yn gweithio ar wasanaethau newyddion y BBC ac S4C hefyd.

Bu’n arwain y tîm a sefydlodd gwefan Gymraeg gyntaf y BBC, Cymru’r Byd, ac yn fwy diweddar, sefydlodd gwmni cynhyrchu, Goriad, gan weithio ar gynyrchiadau teledu a radio gan gynnwys rhaglen Bore Sul i Radio Cymru.

Roedd ei deulu, yr heddlu, ac aelodau’r cyhoedd wedi bod yn ceisio dod o hyd iddo ers Nos Galan.

“Mae’n drist iawn gynnon ni i gyhoeddi bod Dad wedi ei ddarganfod yn yr afon,” meddai Gruffudd Glyn, ei fab, ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Amser i ni gyd drio ymlacio rŵan. Gadewch i ni ddathlu bywyd Dad x.”

Mae Aled Glynne Davies yn gadael gwraig, Afryl, dau o blant, Gwenllian a Gruffudd, a dau o wyrion.