Gallai wythnos waith pedwar diwrnod wella llesiant gweithwyr, cynhyrchiant busnesau a’r amgylchedd, yn ôl ymgyrchydd.

Mae un o bwyllgorau’r Senedd yn annog gweinidogion i dreialu wythnos fyrrach yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda’r un tâl.

Yn ôl Mark Hooper o’r Barri, fu’n cynnal wythnos waith pedwar diwrnod yn ei gwmni, mae angen i Gymru fod ar y blaen wrth gyflwyno wythnos pedwar diwrnod.

Mae cynlluniau peilot ar gyfer gweithio llai o oriau ar y gweill yn yr Alban, Iwerddon a Sbaen, ac mae gwledydd fel Gwlad Belg, yr Almaen, Japan a Seland Newydd yn gwneud gwaith i symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.

Yn ôl adroddiad Pwyllgor Deisebau’r Senedd, mae’r dystiolaeth yn dangos y gallai’r newid hybu cynhyrchiant.

Yn ôl Mark Hooper, wnaeth ei gwmni cydweithredol, Indycube, ddim gweld unrhyw ostyngiad mewn cynhyrchiant wrth weithio pedwar diwrnod.

“Roedd gennym ni wythnos bedwar diwrnod am sawl blwyddyn, ac roedd nifer o resymau dros hynny,” meddai wrth golwg360.

“I ddechrau, er mwyn cynnig cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith, ac yn ail doedden ni ddim yn llai cynhyrchiol o’i wneud.

“Yn bennaf, roedd pobol yn cydnabod nad gwaith ydy popeth; os ydyn ni eisiau i bobol ymgysylltu’n gadarnhaol â’u gwaith, fedrith gwaith ddim bod yn bopeth i rywun.

“Rhaid iddyn nhw gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

“Dw i’n meddwl ein bod ni wedi bod rhy hir fel hyn yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, lle mai gwaith yw’r peth pwysicaf yn ein bywydau. Ddylai hynny ddim bod.

“Roedd pobol yn gallu nôl eu plant o’r ysgol a mynd â nhw yno, fe wnaeth un o’n gweithwyr gyhoeddi eu casgliad cyntaf o gerddi yn eu hamser rhydd.

“Fydden nhw byth wedi gallu gwneud hynny fel arall.”

‘Gorweithio’

Mae hi’n “amlwg nad gweithio oriau hirach yw’r ateb”, meddai Mark Hooper wrth ddweud bod pobol yng Nghymru’n gweithio oriau hirach na sawl lle yn Ewrop, a bod y wlad yn llai cynhyrchiol.

“Mae lot o bobol yn gwneud treialon ar hyn dros y byd, ac mae lot o’r dystiolaeth yn awgrymu y gall cynhyrchiant wella yn ei sgil, sy’n dangos faint rydyn ni’n cael ein gorweithio,” meddai.

Yn Japan, er enghraifft, fe wnaeth Microsoft dreialu wythnos pedwar diwrnod, ac fe wnaeth gwerthiant fesul gweithiwr gynyddu 40% yn y cyfnod peilot.

“Ar y funud, mae gwaith yn ein gwneud ni’n anhapus, yn sâl, a dydyn ni ddim yn gynhyrchiol iawn,” meddai wedyn.

“O safbwynt iechyd meddwl, mae yna enillydd amlwg yma.

“Mae Llywodraeth Cymru’n trio ymestyn y diwrnod ysgol, ac os ydyn ni’n dysgu bod oriau rhy hir yn achosi burnout mewn oedolion yna rydyn ni angen bod yn ofalus iawn efo be rydyn ni’n ei wneud efo plant.

“Mae’r amgylchedd ar ei hennill hefyd, gellir dadlau. Os nad ydyn ni’n gweithio gymaint o oriau, mae hynny’n cael ei dynnu oddi wrth ein hamser yn teithio i’r gwaith.”

Ynghyd â hynny, mae’r dadleuon o blaid y cynllun yn cynnwys cyfrannu at fwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau, gyda dynion “yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb dros ofal di-dâl a gwaith tŷ”.

“Heriau” i wahanol sectorau

Er hynny, mae’r adroddiad yn rhybuddio y gallai rhai sectorau – fel addysg, iechyd a lletygarwch – ei chael hi’n anodd ymdopi.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthwynebu’r cynlluniau hefyd, gan ddweud bod peryg o “greu cymdeithas dwy haen” lle byddai gweithwyr y sector preifat yn gorfod gweithio mwy na’r sector cyhoeddus.

“Dw i’n meddwl ei fod yn gyfle i ni weithio llai, mae byddai sut mae hynny’n cael ei weithredu ar draws gwahanol sectorau angen bod yn wahanol,” meddai Mark Hooper, wrth ystyried a fyddai’n bosib ym mhob sector.

“Ond y man cychwyn ydy nad ydy gweithio gymaint ag ydyn ni ar hyn o bryd yn iach, felly yn lle gweithio 37 awr yr wythnos ein bod ni’n mynd lawr i 32 awr yr wythnos am yr un faint o bres.

“Dyna rydyn ni’n galw amdano ar gyfer y treial yn y sector gyhoeddus.

“Yr her bod yn fusnesau 24/7 fyddai methu ymdopi ag wythnos bedwar diwrnod, maen nhw’n methu’r pwynt nad ydy wythnos pump diwrnod yn gweithio mewn amgylchedd 24/7 chwaith.

“Mae gennym ni rotas, byddai’n gallu arwain at fwy o waith mewn rhai sectorau a chwtogi mewn rhai eraill.

“Ond os ydyn ni’n fwy cynhyrchiol, a dyna sydd i weld yn dod allan o dreialon eraill dros y byd, bydd y buddion hynny’n ymestyn dros yr holl sector.”

‘Meddwl yn wahanol’

Roedd y cyfnodau clo a’r pandemig yn allweddol wrth agor y drws ar gyfer ystyried addasu’r patrwm gwaith, yn ôl Mark Hooper.

“Yn nyddiau cynnar y pandemig, fe wnaeth e ganiatáu i ni feddwl yn wahanol am y byd,” meddai.

“Dw i’n cofio pobol yn dweud bod angen i ni gofio’r manteision – llai o geir, llai o brysurdeb, mwy o amser efo’r teulu.

“Dw i’n teimlo bod yna beryg i ni anghofio hynny, a bod hwn yn gyfle i ni ddweud, ‘A dweud y gwir, roedd yna fuddion gwirioneddol i’n llesiant a’n hiechyd meddwl gyda hynny’.

“Dw i’n meddwl bod rhaid i ni yng Nghymru fod ar y blaen gyda hyn, os ydyn ni o ddifrif o ran ein hymrwymiad i bartneriaethau cymdeithasol ac ati. Mae angen i hyn ffitio mewn â hynny.

“Fedrwn ni arwain, a chyfrannu at y dystiolaeth yn hytrach na chymryd tystiolaeth eraill.”