Mae gan y Bil Amaeth sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd “y potensial i ddatrys llawer iawn o’r problemau” sy’n wynebu Cymru, yn ôl Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru.
Pwrpas y bil fydd cefnogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, ochr yn ochr â gweithredu er mwyn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, a chyfrannu at gymunedau gwledig gan gadw ffermwyr ar y tir.
Wrth annerch Aelodau’r Senedd yn ystod brecwast blynyddol yr Undeb heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 24), prif neges Glyn Roberts oedd fod datganoli’n rhoi’r cyfle i greu atebion penodol i Gymru i’r argyfwng bwyd ac ynni.
Pwysleisiodd fod costau mewnbwn amaethyddol wedi cynyddu bron i 30% yn y Deyrnas unedig yn sgil digwyddiadau byd-eang diweddar.
Dywedodd hefyd yn ystod y brecwast yng Nghaerdydd fod newid hinsawdd yn creu amodau tyfu anodd i ffermwyr.
‘Atebion lleol’
Ynghyd â hynny, mae dibyniaeth y Deyrnas Unedig ar wledydd eraill am fwyd bron â dyblu ers canol y 1980au, meddai, gyda 40% o fwyd y Deyrnas Unedig yn cael ei fewnforio nawr o gymharu â 22% bryd hynny.
Gallai hynny waethygu gyda chytundebau masnach rhydd “peryglus” â gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd, rhybuddia Glyn Roberts.
“Ond mae datganoli yn rhoi’r cyfle i Gymru greu atebion lleol a phenodol i’r problemau hyn, ar ffurf y Bil Amaethyddiaeth sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd gan y Senedd – Bil sy’n cynrychioli’r newidiadau mwyaf i amaethyddiaeth Cymru ers i’r Deyrnas Unedig ymuno â’r Undeb Ewropeaidd,” meddai.
“Ac wrth wraidd yr atebion hynny mae’r ffermydd teuluol sy’n asgwrn cefn i’n cynhyrchiant bwyd, ein heconomïau a’n diwylliant gwledig, a’n hamgylcheddau a’n tirweddau gwerthfawr.”
Cynhyrchu ynni
Atgoffodd Glyn Roberts Aelodau’r Senedd hefyd am rôl ffermydd teuluol Cymru wrth gynhyrchu ynni adnewyddadwy.
“Nid oes angen i mi eich atgoffa o’r argyfwng ynni sydd wedi dod i’r amlwg yn sgil gweithredoedd Putin, ac rydym wedi gweld cyfran fach iawn yn unig o’r potensial sydd gan ein ffermydd teuluol i gyfrannu ymhellach at fynd i’r afael â hyn wrth leihau eu hôl troed carbon eu hunain a pharhau i fwydo poblogaethau ein cenhedloedd,” meddai.
“Mae’r peryglon difrifol o fod yn fyrbwyll o ran diogelu’r cyflenwad bwyd ac ynni yno i bawb eu gweld, felly pa bynnag drywydd y mae San Steffan yn penderfynu ei ddilyn, gadewch inni sicrhau bod ein gweinyddiaethau datganoledig yma yng Nghymru yn cymryd agwedd gyfannol at ein cyfrifoldebau i boblogaethau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”