Oni bai bod awdurdodau lleol yn annog pobol i wneud mwy dros eu hunain, mae gwasanaethau’n debyg o fod yn anghynaladwy, yn ôl adroddiad newydd.
Yn ôl Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd perswadio pobol a chymunedau i fod yn fwy hunanddibynnol ac i ddibynnu llai ar wasanaethau.
Yn sgil yr argyfwng costau byw, mae cynghorau bellach yn wynebu “eu her fwyaf”, meddi’r adroddiad.
Er bod Llywodraeth Cymru’n bwriadu cynyddu cyllidebau cynghorau ar gyfer 2023-24, mae lefel yr arian fydd ar gael yn llai na’r hyn sydd ei angen i gynnal gwasanaethau.
Mae Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru’n amcangyfrif y bydd rhaid i awdurdodau reoli £1.2bn o bwysau o ran costau heb eu cyllido rhwng mis Ebrill eleni a Mawrth 2025, er enghraifft.
O ganlyniad, mae cynghorau’n dangos mwy o ddiddordeb mewn hybu a thyfu cydnerthedd cymunedol, gan arfogi pobol i wneud mwy drostyn nhw eu hunain a bod yn llai dibynnol ar y wladwriaeth.
‘Rôl fwy gweithredol’
Ond yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, dydy awdurdodau lleol ddim yn defnyddio’u hadnoddau i hybu cydnerthedd cymunedol mewn ffordd effeithiol ar hyn o bryd.
“Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, nid yw hyn yn syndod; gyda dyfodol ansicr, nid yw symud adnoddau o wasanaethau sy’n aml dan bwysau yn hawdd o gwbl,” meddai’r adroddiad.
“Ond oni bai bod awdurdodau lleol yn annog pobol i wneud mwy drostynt hwy eu hunain a dod o hyd i’w datrysiadau eu hunain, mae gwasanaethau’n debygol o fod yn anghynaladwy.”
Mae angen i awdurdodau lleol sicrhau bod ganddyn nhw’r trefniadau a’r systemau cywir i gryfhau cydnerthedd cymunedol a chynorthwyo pobol i fod yn hunanddibynnol, meddai’r adroddiad wedyn.
“Dangosodd y pandemig y gall cymunedau fod â rôl fwy gweithredol a dod yn llai dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus ond er mwyn cynnal hyn mae angen i awdurdodau lleol newid y ffordd y maent yn gweithio,” meddai Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol.
“Rwy’n cydnabod pa mor anodd yw hyn yn yr hinsawdd bresennol ond rwyf hefyd yn credu bod newid yn angenrheidiol.
“Mae ein hadroddiad yn cyfleu’r achos dros newid ac yn darparu argymhellion i helpu awdurdodau i wneud y trawsnewidiad.”