Bydd cynllunwyr yn ystyried gwaith i uwchraddio tafarn hanesyddol a chanolfan gymunedol gafodd ei hachub gan bentrefwyr.
Mae yna gais caniatâd rhestru adeilad Ty’n Llan yn Llandwrog ar y gweill.
Mae lle i gredu bod adeilad rhestredig Gradd II y dafarn hanesyddol, sydd hefyd yn cael ei hadnabod wrth yr enw yr Harp, wedi’i hadeiladu yn y 1830au fel rhan o ystâd Glynllifon.
Ond mae dogfennau cynllunio’n nodi y “gall fod wedi ymgorffori elfennau sylweddol o strwythur cynharach ac roedd yn rhan o waith ailgynllunio Llandwrog fel pentref ystâd gan yr Arglwydd Niwbwrch”.
Yn lleoliad poblogaidd ymhlith beirdd a chantorion ers tro, mae’r adeilad yn cynnwys panel llechi yn Gymraeg a Saesneg sy’n brolio lletygarwch y dafarn, ond yn rhybuddio rhag bod yn feddw.
Cau ac ailagor y dafarn
Caeodd y dafarn yn 2017, ond fis Chwefror y llynedd daeth mwy na 100 o bentrefwyr ynghyd i brynu’r adeilad.
Cafodd Menter Ty’n Llan, cymdeithas er budd y gymuned, ei sefydlu gyda phwyllgor rheoli a chyfranddaliadau gwerth mwy na £400,000.
Denodd y dafarn gefnogaeth o bedwar ban byd, gyda’r seren ffilmiau a cherddoriaeth Rhys Ifans ymhlith y rhai fu’n apelio am ei chadw hi’n fyw.
Y cais
Bellach, mae cynllunwyr Cyngor Gwynedd wedi derbyn cais i roi caniatâd rhestru adeilad i gynlluniau fyddai’n golygu bod estyniad un llawr yn cael ei godi yng nghefn yr adeilad.
Mae’r gwaith yn cynnwys dymchwel ac ailadeiladu estyniad yn y gegin gefn, adeiladu lifft a ffenestri a newidiadau mewnol eraill.
Mae’r cais wedi’i gyflwyno gan Clementine MacRae (La box) drwy law’r asiant Elinor Gray-Williams o gwmni Penseiri Elinor Gray-Williams Cyf.
Nododd y sawl sy’n gwneud y cais mai eu bwriad yw “adfywio’r dafarn bresennol, Ty’n Llan, a’i gwneud yn galon y gymuned”.
Mae’r cynlluniau’n nodi, “Wedi’i redeg gan Fenter Ty’n Llan, mae’r gymuned yn dymuno ymestyn y dafarn fel ei bod yn fwy addas ar gyfer anghenion pawb ac fel bod ganddi fodel ariannol cynaliadwy fel y gall aros ar agor yn y tymor hir heb fod angen arian allanol rheolaidd”.
“Mae’r cais yn cynnwys ardal fwyta newydd, wedi’i hadeiladu o fewn adfeilion presennol waliau’r twlc mochyn; dymchwel yr adain gegin fodern, a’i disodli gan estyniad un llawr, i ddarparu cegin weithredol a mannau staff,” meddai’r cais wedyn.
“Gwaith aildrefnu’n fewnol, gan gynnwys yng nghefn y dafarn lle bydd drws newydd â ffenest yn cael ei ychwanegu er mwyn gwella lefelau goleuni a golygfeydd, a bydd lifft yn cael ei ychwanegu er mwyn cynnig hygyrchedd i’r llawr cyntaf i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
“Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys symud ambell golofn fewnol er mwyn gwireddu’r cynllun llawr sydd ei eisiau.
“O ganlyniad i’r cynnydd mewn gorchuddion, nod y bwyty newydd yw cynnwys, fel rhan o’r cynllun ariannol, gegin gyfoes newydd â lle i ragor o orchuddion â rhewgell i gerdded i mewn iddi, a storfeydd yn ôl yr angen.
“Mae hefyd angen ystafell staff ac ardal newid, gyda thŷ bach staff, yn ogystal ag ystafell beiriannau, ac mae modd cynnwys y cyfan o fewn yr ardal gegin newydd.”
Byddai’r cynlluniau hefyd yng weld un aelod o staff llawn amser a phum aelod rhan amser yn cael eu cyflogi.
Cafodd y cais, sydd ar y gweill, ei dderbyn ar Dachwedd 30 y llynedd, ac roedd yn ddilys tan Ionawr 12 ac yn dod i ben yn derfynol ar Fawrth 9.