Mae Camerŵn yn gwadu gofyn i unrhyw wlad fod yn ganolwr mewn ffrae tros sefydlu gwladwriaeth newydd sbon.

Mae rhai yn awyddus i sefydlu gwladwriaeth newydd o’r enw Ambazonia, ac mae Canada yn dweud iddyn nhw dderbyn cais i weithio ar broses heddwch yn yr anghydfod.

Yn ôl swyddfa dramor Canada, maen nhw wedi derbyn mandad i hwyluso trafodaethau rhwng Camerŵn a rhai rhanbarthau Saesneg eu hiaith yn y wlad yn dilyn gwrthdaro sydd wedi arwain at ladd 6,000 o bobol ers 2017.

Ond mewn datganiad, mae Camerŵn wedi wfftio’r awgrym ond dydy’r rhai sydd eisiau ymwahanu ddim wedi ymateb i’r datganiad hwnnw.

Yn ôl swyddfa’r wasg gweinyddiaeth dramor Canada, mae rhai cyfarfodydd eisoes wedi’u cynnal, ac mae Llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yng Nghamerŵn wedi croesawu ymateb Canada.

Mae’r rhai sydd eisiau sefydlu gwladwriaeth Ambazonia yn ddig gan eu bod nhw’n teimlo bod cymunedau Saesneg eu hiaith yn cael eu gwthio i’r cyrion gan y rhai sy’n siarad Ffrangeg.

Fe fu’r gwrthdaro yn 2017 mewn dwy ardal lle mae awdurdodau Canada’n dweud nad oes gan blant fynediad llawn at addysg chwaith.

Cafodd y ddwy ardal statws arbennig yn 2019, ond chafodd yr anghydfod mo’i ddatrys.