Mae angen rhagor o arbenigwyr canser wrth ddrysau ffrynt ysbytai er mwyn gwella profiadau cleifion, yn ôl galwadau newydd.

Yn ôl adroddiad newydd gan Goleg Brenhinol y Meddygon, bydd angen gofal canser frys arbenigol ar nifer o gleifion canser yn adrannau brys eu hysbyty lleol ar ryw adeg yn ystod eu salwch.

Fodd bynnag, mae yna alw heb ei ateb am wasanaethau oncoleg acíwt mewn ysbytai lleol dros ran helaeth o Gymru, meddai’r adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 24).

Mae hynny’n golygu y gall cleifion canser gael profiadau gwael iawn mewn argyfwng.

Gall derbyniad canser acíwt olygu bod cyflwr y claf yn gwaethygu, ond gall asesiad sydyn ac adolygiad cynnar gan y tîm cywir olygu eu bod nhw’n cael gadael yr ysbyty yn gynt, yn ôl yr adroddiad.

‘Oedi, rhwystredigaeth ac ansicrwydd’

Dywed John de Mora, sy’n byw â chanser, nad yw wedi cael unrhyw gymorth nac arweiniad ar reoli sgil effeithiau canser a’r driniaeth hormonau na’r radiotherapi.

“Symudais i Fangor gyda fy ngwraig ym mis Medi 2020 i fod yn agosach at y teulu,” meddai.

“Doedd hi ddim yn hawdd symud ein ffeiliau meddygol ac roedd yr oedi wrth ddiweddaru ein cofnodion yn golygu nad oedd modd i mi gael fy nghyfeirio am bryderon iechyd parhaus at arbenigwyr yn Ysbyty Gwynedd.

“Ar ôl dal ati, chwe mis yn ddiweddarach, cefais weld wrolegydd ymgynghorol a drefnodd brofion i mi.

“Dri mis ar ôl hynny, dysgais fod gen i ganser y prostad.

“Dywedwyd wrthyf nad oeddwn yn gymwys i gael llawdriniaeth, felly dechreuais therapi hormonau yn yr haf, a radiotherapi yn ystod hydref 2021.

“Dydw i ddim wedi cael unrhyw gymorth nac arweiniad ar reoli sgil effeithiau triniaethau canser o’r driniaeth hormonau na’r radiotherapi.

“Ychydig iawn o apwyntiadau sydd ar gael gyda gweithwyr iechyd proffesiynol.

“Yr haf diwethaf, disgynnais yn fy nghartref a threuliais dri diwrnod yn yr adran achosion brys yn Ysbyty Gwynedd, ac yna dau ddiwrnod ar y ward ganser.

“Ni welais arbenigwr gwasanaeth oncoleg acíwt pan oeddwn yno, ac ni chefais ddiagnosis pendant erioed ar gyfer y digwyddiad acíwt.

“Mae fy mhrofiad i wedi bod yn un o oedi, rhwystredigaeth ac ansicrwydd dro ar ôl tro: mae wedi effeithio arnaf i a’m teulu.

“Ni allaf ddweud wrthych faint y byddai wedi helpu i siarad â rhywun a oedd yn deall fy salwch ac effaith triniaeth canser ar fy nghorff; rhywun a allai fod wedi fy nghefnogi gydag arbenigedd drwy gyfnod mor frawychus.”

‘Deall cymhlethdodau canser’

Dylai pob bwrdd iechyd greu cynlluniau lleol sy’n cynnwys buddsoddiad tymor hir mewn staff arbenigol er mwyn sicrhau gwasanaeth cynaliadwy, meddai’r adroddiad.

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon hefyd yn galw am gydweithio agosach rhwng rhanbarthau, a chanolbwyntio ar leihau anghyfartaleddau iechyd.

“Bob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn dod i gysylltiad â gwasanaethau oncoleg acíwt y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru,” meddai Dr Olwen Williams, Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru.

“Mae hyn yn cynnwys pobol sy’n cael diagnosis brys o ganser wrth ddrws ffrynt yr ysbyty, yn ogystal â’r bobol hynny sy’n byw gyda chanser sy’ n mynd yn ddifrifol wael yn sydyn, naill ai oherwydd y salwch ei hun neu oherwydd cymhlethdodau gyda’u triniaeth.

“Mewn byd delfrydol, byddai’r cleifion hyn yn cael gofal o safon uchel wrth y drws ffrynt gan glinigwyr arbenigol sy’n deall cymhlethdodau canser, ei driniaethau, a’r effaith ddinistriol y gall y clefyd ei chael ar lesiant corfforol, emosiynol, ariannol a meddyliol pobol.”

Mae ymchwil gan Marie Curie yn dangos bod 56,000 o bobol sy’n nesáu at ddiwedd eu hoes yn ymweld ag adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru bob blwyddyn, hanner ohonyn nhw fin nos neu ar benwythnosau.

“Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn ei chael hi’n iawn: mae angen mwy o arbenigwyr canser arnom wrth ddrws ffrynt yr ysbyty, a dyna pam yr ydym am annog uwch arweinwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y timau hollbwysig hyn a chefnogi gweledigaeth genedlaethol glir ar gyfer gwasanaeth oncoleg acíwt yng Nghymru.”