Mae cymuned Chwilog ger Pwllheli a’r cyffiniau yn paratoi ar gyfer cynnydd yn niferoedd yr ysgol, wrth i fwy o fuddsoddiad mewn tai ar gyfer pobol leol roi cyfle i deuluoedd ffynnu yn yr ardal.

Heddiw (dydd Mawrth, 24 Ionawr), bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod cymeradwyo hysbysiad statudol er mwyn cynyddu capasiti’r ysgol dros 25%.

Mae grant cyfalaf a refeniw addysg cyfrwng Cymraeg wedi’i glustnodi i ddatblygu ystafell ddosbarth ychwanegol yn yr ysgol ynghyd ag athro ychwanegol, yn rhan o brosiect Llywodraeth Cymru i ehangu capasiti addysg Gymraeg.

O’i gytuno gan y cabinet ac wedi’r cyfnod rhybudd statudol, gallai’r datblygiad fod yn barod ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd fis Medi eleni.

Fel rhan o’r hysbysiad statudol, bydd y cyhoedd yn cael 28 diwrnod i wneud sylwadau ar unrhyw newidiadau, gydag adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd ym mis Ebrill.

Sicrhau cynnydd a lles

“Mae’n galonogol gweld ysgol bentref yng nghanol cymuned Gymraeg lle mae dros 70% o’r trigolion yn siarad Cymraeg yn ffynnu,” meddai’r Cynghorydd Beca Brown.

“Mae sicrhau bod y bobol ifanc yma yn Ysgol Chwilog yn cael y cyfleoedd gorau i ffynnu a datblygu o fewn eu lleoliad addysgol yn bwysig, ac rydym yn falch iawn o allu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y cynnydd hwn.

“Bydd ein staff gweithgar yn yr ysgol hefyd yn elwa o adnoddau ychwanegol a gwell amgylchedd gwaith.”

‘Newyddion gwych i’r ardal’

“Mae hyn yn newyddion gwych i’r ardal ac rydym yn gweld y manteision a ddaw yn sgil tai newydd wrth i deuluoedd ifanc ymgartrefu yn yr ardal, diolch i gefnogaeth adeiladwr egwyddorol lleol am werthu’r holl dai i bobol leol,” meddai’r Cynghorydd Rhys Tudur, cynrychiolydd Llanystumdwy ar Gyngor Gwynedd, sy’n cynnwys ardal Chwilog.

“Mae blaengynllunio ar gyfer sicrhau lle i blant ychwanegol fynychu ein hysgol leol yn hanfodol a dwi’n falch bod Cabinet Plaid Cymru Gwynedd wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad i’r ysgol er mwyn datblygu’r capasiti a chreu ystafell ddosbarth ychwanegol.

“Mae creu ysgol sy’n addas i bwrpas ar gyfer staff a phlant yn hollbwysig er mwyn sicrhau cynnydd a lles.

“Dwi’n falch iawn bod grant iaith Gymraeg i gyflogi athro/athrawes ychwanegol yn Ysgol Chwilog hefyd wedi’i gytuno er mwyn sicrhau bod y staff a’r disgyblion presennol yn cael cefnogaeth bellach wrth i’r ysgol dyfu.”

Cyhoeddi prosiectau mawr i ehangu capasiti addysg Gymraeg

Y cynlluniau’n cynnwys sefydlu ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd, cynyddu capasiti mewn ysgolion Cymraeg, ac ehangu’r ddarpariaeth trochi iaith