Mae datblygwyr sy’n cynllunio i godi fferm wynt yn y canolbarth wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i weithio â’r gymuned leol fel bod y cynllun yn gweddu pawb.
Bwriad Lluest y Gwynt Windfarm Ltd ydy codi deuddeg o dyrbinau gwynt 180 metr – sydd tua’r un faint â’r rhai sy’n cael eu rhoi ar y môr fel arfer – ar fynyddoedd Pumlumon.
Wrth ymateb i bryderon gan Gymdeithas Mynyddoedd Cambria am eu heffaith ecolegol ac economaidd, dywedodd y datblygwyr y bydd unrhyw gynllun yn sicrhau bod yr amgylchedd ar ei hennill.
Mae’r datblygwyr, cwmnïau Statkraft ac Eco2, eisoes wedi gwneud un cais i osod mesurydd gwynt yno, ond cafodd y cais hwnnw ei wrthod, ac maen nhw bellach wedi gwneud ail gais.
Maen nhw hefyd wrthi’n mireinio cais ar gyfer fferm wynt ehangach, gan ystyried ymatebion rhanddeiliaid a chymunedau lleol, a bydd ymgynghoriad arall yn cael ei gynnal cyn i’r cais terfynol gael ei wneud.
Pe bai’r cais yn mynd rhagddo, byddai’r fferm wynt yn ymestyn lawr llethrau deheuol mynyddoedd Pumlumon tua chyfeiriad Ponterwyd.
‘Gwerth i’r amhylchedd’
Mae Ysgrifennydd Cymdeithasol Mynyddoedd Cambria’n dweud wrth golwg360 bod ganddyn nhw bryderon am faint y fferm wynt a’i lleoliad gwledig, ac y byddai’n well adeiladu ffermydd bychain yn nes at ddinas lle mae’r galw am ynni’n uchel.
“Camsyniad ydy credu y gellir gosod ychydig o dyrbinau gwynt ger mannau trefol er mwyn datrys yr argyfwng hinsawdd a chynnig sefydlogrwydd ynni, mae’r lleoliadau addas yn brin iawn,” meddai llefarydd ar ran Lluest y Gwynt.
“O ran prosiect Lluest y Gwynt, mae tyrbinau uwch yn cynhyrchu llawer iawn mwy o drydan adnewyddadwy glan ac ystyriaeth hanfodol wrth ddylunio yw sut i greu’r swm uchaf o ynni wrth fod yn sensitif i’r safle a’i hamgylchedd.
“Mae blynyddoedd yn cael eu treulio i gynnal arolygon arbenigol ac ymchwil i sicrhau hyn ac mae hynny, yn ogystal ag adborth cymunedau lleol a rhanddeiliaid, wedi arwain at newidiadau yn y cynnig fel y gostyngiad yn nifer y tyrbinau er mwyn lleihau’r effaith.
“Bydd unrhyw gynllun fyddan ni’n ei gynnig yn edrych ar ddangos bod gwerth net i’r amgylchedd, ac rydyn ni’n hyderus y gallwn ni lwyddo i wneud hyn, ynghyd â chreu buddion eraill, ar y safle hwn.”
‘Cyfraniad gwych i’r grid’
Un budd allweddol yw’r ffaith fod digon o gapasiti yn un o bwyntiau cysylltedd y grid yn barod i gynnal faint o drydan fyddai’n cael ei greu gan y tyrbinau, yn ôl y datblygwr.
“Mae hyn yn golygu na fyddai’n rhaid gwneud gwaith uwchraddio eang ar y grid yng nghanolbarth Cymru ac y gellid dechrau cynhyrchu ynni glan adnewyddadwy mor gynnar â 2027 heb orfod codi peilonau dros Gymru,” meddai.
“Felly, byddai’r prosiect yn gwneud cyfraniad gwych tuag at nod Cymru o gael 70% o’i thrydan drwy ynni adnewyddadwy erbyn 2030.
“Byddan ni’n gweithio gyda thrigolion a mudiadau i siapio’n buddsoddiad ni yn y gymuned mewn ffordd sydd wir yn gweithio iddyn nhw, gan gynnwys perchnogaeth leol, mesurau i wella effeithlonrwydd ynni, ac ariannu prosiectau cymunedol, o bosib.”
‘Dim effaith ar dwrisiaeth’
Elfen arall i wrthwynebiad ymgyrchwyr ydy’r effaith ar dwristiaeth, a phryder y byddan nhw’n “tyrru dros arfordir Ceredigion”.
Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn tybio y bydd hi’n bosib gweld topiau’r tyrbinau o Lanymddyfri a’r fferm fydd y prif beth fydd pobol yn ei gweld o bob man ar arfordir Ceredigion, ac y byddan nhw hefyd i’w gweld o Gader Idris yn Eryri.
“Does yna ddim tystiolaeth bod tyrbinau gwynt yn effeithio’n negyddol ar dwristiaeth, fel y darganfuwyd yn adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Cynulliad [y Senedd nawr] yn 2014 ar effaith economaidd ffermydd gwynt ar sector twristiaeth Cymru,” meddai Lluest y Gwynt.
“Yn groes i hynny, rydyn ni’n gweld nifer cynyddol o esiamplau’n dangos y gwrthwyneb.
“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n aros am benderfyniad gan Gyngor Sir Ceredigion ar ein cais i osod mast anemomedr dros dro, fyddai’n cael ei ddefnyddio i fesur faint o wynt sydd ar y safle.
“Rydyn ni dal i fireinio’r prosiect fferm wynt ehangach gan ystyried yr ymatebion a gafwyd gan randdeiliaid a chymunedau lleol yn ystod gwahanol rowndiau o ymgynghori ac felly dydy’r cynigion heb gyrraedd eu cam terfynol eto.
“Byddan ni’n cynnal ymgynghoriad pellach ar y prosiect yn ehangach yn hwyrach eleni, a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi yn y man.”
Maen nhw’n dweud ymhellach y bydden nhw wrth eu boddau’n cwrdd â Chymdeithas Mynyddoedd Cambria i drafod y prosiect ymhellach, pe baen nhw’n dymuno cael cyfarfod.