Mae gan ymgyrchwyr bryderon ecolegol ac economaidd ynghylch datblygiad fferm wynt bosib yn y canolbarth.
Bwriad Lluest y Gwynt Windfarm Ltd ydy codi deuddeg o dyrbinau gwynt 180 metr – sydd tua’r un faint â’r rhai sy’n cael eu rhoi ar y môr fel arfer – ar fynyddoedd Pumlumon.
Mae’r datblygwyr, cwmnïau Statkraft ac Eco2, eisoes wedi gwneud un cais i osod mesurydd gwynt yno, ond cafodd y cais hwnnw ei wrthod, ac maen nhw bellach wedi gwneud ail gais.
Pe bai’r cais yn mynd yn ei flaen, byddai’r fferm wynt yn ymestyn lawr llethrau deheuol mynyddoedd Pumlumon tua chyfeiriad Ponterwyd.
Yn sgil graddfa’r datblygiadau arfaethedig, Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad gan ei fod yn ‘Ddatblygiad o Ddiddordeb Cenedlaethol’.
Mae Cymdeithas Mynyddoedd Cambria yn gwrthwynebu’r datblygiadau, gan dynnu sylw at eu hedrychiad a’r effaith ar yr amgylchedd.
“Os ydych chi’n meddwl am ffermydd gwynt sydd yno’n barod, rydych chi’n siarad am bethau sy’n debycach at 50 medr o uchder. Maen nhw reit fawr, mae posib eu gweld nhw o bellter go lew,” meddai Lorna Brazell, ysgrifennydd y gymdeithas, wrth golwg360.
“Ond dydyn nhw ddim yn overwhelming o gymharu â maint y dirwedd.
“Ond nawr, a hwn ydy’r datblygiad cyntaf i gyrraedd y cam hwn ar y raddfa yma, rydyn ni’n siarad am dyrbinau maen nhw’n eu gosod yn y môr fel arfer – sydd dipyn uwch oherwydd does dim byd i’w rhwystro nhw rhag bod yn fawr allan ar y môr.
“Os feddyliwch chi am faint Mynyddoedd Cambria, mae Pumlumon Fawr ychydig dros 2,000 troedfedd. Mae hwn am fod chwarter maint y mynydd ei hun. Fydd e’n cymryd drosodd.
“Fyddech chi ddim yn gweld Pumlumon fel y mae mwyach, fydd e’n edrych fel bryn o dan set anferthol o dyrbinau.
“Heb sôn am y difrod ecolegol fyddan nhw’n ei gwneud – achos yn amlwg mae tyrbinau mor fawr â hyn angen sylfaeni concrid anferth a fydd yn dinistrio llawer o’r mawndiroedd a’r cynefinoedd o’u hamgylch nhw – ein pryder yw y bydd ein hucheldiroedd yn diflannu, i bob pwrpas, unwaith mae datblygiadau ar y raddfa hon yn dechrau cael eu hadeiladu yno.”
Mae’r Gymdeithas yn tybio y bydd hi’n bosib gweld topiau’r tyrbinau o Lanymddyfri a’r fferm fydd y prif beth fydd pobol yn ei weld o bob man ar arfordir Ceredigion, yn ôl Lorna Brazell, ac y byddan nhw hefyd i’w gweld o Gadar Idris yn Eryri.
“Mae’n gam at newid yr hyn sy’n edrych fel amgylchedd heb ei chyffwrdd i amgylchedd diwydiannol,” meddai.
‘Mwy o ffermydd bychain’
Does dim angen y datblygiad, meddai Lorna Brazell wedyn, gan bwysleisio eu bod nhw’n llwyr o blaid ynni adnewyddadwy.
“Mae’r ffermydd gwynt sy’n bodoli’n barod yn creu ynni i ni, rydyn ni’n llwyr ddeall yr angen i gynhyrchu’n adnewyddadwy yn hytrach na llosgi mwy o danwydd ffosil, ond pam bod rhaid iddo fod ar raddfa sy’n mynd i gael effaith anferthol ar y dirwedd a’r amgylchedd?
“Byddai’n well cael mwy o ffermydd gwynt bychain wrth ymyl y llefydd sydd angen yr ynni, yn hytrach na mynd am [gynllun] ar raddfa tyrbinau morwrol ond ar dir, ac yna trosglwyddo’r ynni’r holl ffordd i Gaerdydd neu Birmingham neu Ddulyn.
“Ar y funud, does gennym ni ddim cysylltiadau i’r grid fyny ym Mhonterwyd fyddai’n gallu cymryd y lefel hon o ynni, felly byddai yna fwy fyth o adeiladu er mwyn gosod peilonau neu greu twneli yn y tir i roi’r gwifrau.
“Mae’n siŵr y byddai’n rhaid adeiladu ffyrdd i greu’r fferm ac adeiladu’r seilwaith i’w gefnogi.
“Does dim cyfiawnhad i’r ddadl dros wneud datblygiad mor fawr mewn lle mor wledig, o ystyried ei effaith.”
‘Tyrru dros arfordir Ceredigion’
Elfen arall i’w gwrthwynebiad ydy’r effaith ar dwristiaeth.
“Mae’n wych i’r perchnogion tir fyddai’n cael yr arian o osod eu tir, ond mae’n mynd i gael effaith anferth ar y diwydiant twristiaeth,” meddai Lorna Brazell.
“Byddan nhw’n tyrru dros arfordir Ceredigion, a dydy hynny ddim er budd y gymuned ehangach.
“Dw i’n meddwl y bydd Aberystwyth wedi dychryn o weld beth fydd effaith cael tyrbinau mor fawr â hyn ar y bryniau uwch eu pennau.”
Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru a Lluest y Gwynt am ymateb.