Mae’r mudiad Conradh na Gaeilge yn gwrthod talu biliau i gwmni dŵr Irish Water am eu bod nhw’n uniaith Saesneg.

Yn ôl Irish Water, gallen nhw orfodi’r mudiad i dalu’r biliau drwy fynd at y llysoedd, ond mae’r mudiad yn gwrthod trafod y mater ar hyn o bryd.

Mewn achos tebyg, treuliodd perchennog tafarn saith mlynedd yn gwrthod talu biliau am yr un rheswm, ond daeth y mater i ben yn 2021 pan dderbyniodd Peadar Ó Máille o Indreabhán yr hyn roedd yn gofyn amdano.

Ymddiheurodd Irish Water wrth siaradwyr yr iaith ar y pryd, a nododd y cwmni y byddai modd “gwella” eu gwasanaethau i siaradwyr Gwyddeleg ond fod problemau’n codi o hyd.

Yr achos diweddaraf

Ar ddechrau’r flwyddyn, cafodd Conradh na Gaeilge wybod y gallen nhw wynebu achos llys pe baen nhw’n gwrthod talu’r biliau dan sylw.

Yn ôl y mudiad, mae trafodaethau ar y gweill ers 2021 ac maen nhw’n mynnu na fyddan nhw’n talu hyd nes eu bod nhw’n derbyn gohebiaeth yn yr iaith Wyddeleg.

Mae lle i gredu bod y mudiad eisoes wedi talu un bil gan fod y ddogfen honno yn yr iaith Wyddeleg, ond fod rhagor o ddogfennau uniaith Saesneg wedi cyrraedd ers hynny.

Dywed y mudiad eu bod nhw wedi ffonio Irish Water ar sawl achlysur, ond fod neb ar gael i drafod y mater drwy gyfrwng y Wyddeleg ar bob achlysur arall.

Yn ôl y gyfraith ar hyn o bryd, does dim rhaid i Irish Water a chyrff tebyg ddarparu dogfennau yn yr iaith Wyddeleg, a does gan y cwmni ddim cynllun iaith.

Mae adroddiad wedi codi pryderon am eu hymdriniaeth o’r iaith.