Mae miloedd o bobol sy’n cefnogi annibyniaeth i Gatalwnia wedi ymgynnull ar gyfer protest, ar drothwy uwchgynhadledd rhwng arweinwyr Sbaen a Ffrainc yn Barcelona.
Mae’r holl bleidiau a mudiadau sydd o blaid annibyniaeth yn cymryd rhan yn y rali, gyda’r tensiwn ar gynnydd dros y misoedd diwethaf.
Fis Hydref y llynedd, fe adawodd plaid Junts per Catalunya y llywodraeth glymblaid gan fynnu bod anghydfod ag Esquerra, plaid arall y llywodraeth, yn cymryd mwy o sylw na materion yn ymwneud â Llywodraeth Sbaen.
Ar ddechrau’r brotest, fe fu’r dorf yn datgan eu cefnogaeth i Carles Puigdemont, cyn-arweinydd Catalwnia sy’n byw’n alltud ar ôl gadael yn dilyn refferendwm aflwyddiannus 2017, oedd yn cael ei ystyried yn anghyfansoddiadol gan Sbaen.
Ymhlith y rhai yn y rali mae Laura Borràs, llefarydd y senedd a llywydd Junts per Catalunya, ac mae hi wedi bod yn feirniadol o Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, a’i benderfyniad i gyfarfod ag Emmanuel Macron, arlywydd Ffrainc, a Pedro Sánchez, prif weinidog Sbaen.
Mae hi’n mynnu bod y frwydr tros annibyniaeth yn fyw o hyd, yn groes i ddatganiad Sbaen ei bod hi “ar ben”.
Cytundeb cyfeillgarwch
Wrth i Sbaen a Ffrainc gyfarfod heddiw (dydd Iau, Ionawr 19), fe fydd cytundeb cyfeillgarwch rhwng y ddwy wlad yn cael ei lofnodi, y cytundeb cyntaf o’i fath erioed rhwng Sbaen a Ffrainc.
Fe fydd Pere Aragonès yn bresennol ar gyfer yr eiliad hanesyddol, ond fydd e ddim yn cymryd rhan yn y trafodaethau fydd yn dilyn hynny.
Fe fydd Emmanuel Macron a Pedro Sánchez yn rhoi sylw i faterion megis ailagor ffiniau, gydag wyth allan o 38 ohonyn nhw ynghau ar hyn o bryd.
Cawson nhw eu cau yn ystod y pandemig Covid-19 ac oherwydd y perygl o frawychiaeth, ond mae Sbaen yn benderfynol o’u hailagor nhw eto.
Dywed Ffrainc y gallai’r cyfarfod hwn fod yn gyfle i drafod amserlen i’w hailagor nhw pe bai’r ddau gabinet yn dod i gytundeb ynghylch cynnal patrolau ar y cyd rhwng heddluoedd y ddwy wlad.
Mae’r argyfwng ynni hefyd yn debygol o gael cryn sylw, gyda disgwyl i Barcelona fod yn gartref i brosiect peipen ynni gwyrdd H2Med, er bod Llywodraeth Sbaen yn mynnu bod y penderfyniadau ynghylch y prosiect hwn eisoes wedi cael eu gwneud yn derfynol.