Mae amseroedd aros mewn adrannau achosion brys y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, ac amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans ar eu gwaethaf erioed, yn ol ffigurau sydd wedi eu cyhoeddi heddiw (dydd Iau, Ionawr 19).
Mae nifer y galwadau ‘coch’ (bywyd yn y fantol) gafodd eu hateb gan y gwasanaeth ambiwlans o fewn yr amser targed wedi gostwng i’w lefel isaf erioed.
Ym mis Rhagfyr, cafodd y gwasanaeth ambiwlans 5,949 o alwadau coch, sef 14.6% o’r holl alwadau.
Dim ond 39.5% o’r galwadau hyn gafodd eu hateb o fewn 8 munud, sy’n ostyngiad am y pumed mis yn olynol.
Dyma’r nifer uchaf erioed o alwadau coch a wnaed mewn mis sef 192, sy’n gynnydd o 25% o 153 ym mis Tachwedd.
Daw’r cyhoeddiad wrth i weithwyr y gwasanaeth ambiwlans streicio unwaith eto heddiw (dydd Iau, Ionawr 19).
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb gan ddweud bod y Gwasanaeth Iechyd “dan bwysau eithriadol” ar hyn o bryd oherwydd streiciau gan weithwyr y gwasanaeth ambiwlans a nyrsys.
Amseroedd aros pobol hŷn yn dyblu
Bu gostyngiad yng nghanran y cleifion sy’n cael eu derbyn, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau o fewn 4 awr mewn adrannau achosion brys y GIG.
Ym mis Rhagfyr, roedd 63.1% o gleifion yn holl adrannau achosion brys y GIG wedi treulio llai na 4 awr yn yr adran.
Roedd hyn 4.2% yn is na’r mis blaenorol a’r ffigur isaf erioed.
Yn 2019, roedd cleifion yn aros tua 2 awr 30 munud ar gyfartaledd mewn adran achosion brys.
Yn ystod rhan gyntaf y pandemig, wrth i nifer yr ymweliadau ostwng, roedd yr amser roedd cleifion yn treulio yn yr adran wedi gostwng i isafbwynt o 1 awr a 47 munud ym mis Ebrill 2020.
Ers hynny, mae’r amseroedd wedi cynyddu ac wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, sef 3 awr ac 8 munud ym mis Mawrth 2022.
Angen agwedd ‘newydd ac arloesol’
Wrth ymateb i’r amseroedd ymateb, mae Plaid Cymru wedi galw am “agwedd newydd ac arloesol” i wella amseroedd aros yn “sylweddol”.
Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Rhun ap Iorwerth AS, bod y ffigurau diweddaraf yn cadarnhau bod y gwasanaeth iechyd mewn “argyfwng”.
Fodd bynnag, mewn pleidlais yn y Senedd neithiwr (dydd Mercher, Ionawr 18), pleidleisiodd Llafur yn erbyn galwadau i ddatgan argyfwng iechyd yng Nghymru.
Er bod nifer y cleifion ar restrau aros wedi gostwng ychydig, a bod cynnydd yn nifer y cleifion sy’n dechrau triniaeth canser o fewn y mis, mae Llywodraeth Cymru “gryn bellter” o hyd o gyrraedd eu targed, meddai’r blaid.
Mae ychydig dros hanner y cleifion canser yn dechrau eu triniaeth o fewn yr amser targed o 62 diwrnod, a’r targed yw i 4 o bob 5 claf canser ddechrau triniaeth o fewn yr amser yma.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Ni all Llywodraeth Cymru barhau i wneud yr un peth a disgwyl i amseroedd aros wella’n sylweddol – mae angen agwedd newydd ac arloesol i newid trywydd presennol y GIG.
“Dyna pam mae Plaid Cymru yn credu y dylid datgan argyfwng iechyd yng Nghymru a pham ei bod mor siomedig fod Llafur wedi pleidleisio yn erbyn yn y Senedd ddoe.
“Byddai hyn wedi dangos eu bod yn barod i gydnabod maint yr her, ac yn barod i osod cyd-destun newydd ar gyfer ymgymryd â’r heriau hynny.”
Y Ceidwadwyr yn ymateb
“Dyma restr enbyd arall o ffigurau sydd ond yn amlygu’r dioddefaint dyddiol yn y GIG lle mae diogelwch cleifion mewn perygl a morâl staff yn cael ei dorri’n llwyr,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth ymateb.
“Sut y gall unrhyw un fod ag unrhyw hyder yn y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd i ddatrys y problemau sy’n wynebu’r GIG, fel mynediad at feddygon teulu a deintyddion a datrys streiciau pan fo gofal brys a gofal dewisol yn dadfeilio?
“Rwy’n gwybod bod hon yn sefyllfa anodd ond rhaid cofio, o dan wyliadwriaeth Llafur, bod Cymru wedi’i gadael mewn sefyllfa waeth – rydym newydd gofnodi’r amseroedd ymateb ambiwlansys ac adrannau damweiniau ac achosion brys gwaethaf erioed ac mae gennym ni’r rhai hiraf ym Mhrydain.
“Mae angen i Lafur fynd i’r afael a’r GIG a rhoi’r gorau i dorri’r holl recordiau anghywir.”
‘Codi arswyd’
“Cynnydd mewn marwolaethau gormodol, miloedd ar restrau aros, ac oriau nes bod ambiwlans yn cyrraedd, mae’n codi arswyd nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi llwyddo i fynd i’r afael arni,” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Bydd pobol yn ofnus pan fyddan nhw neu eu hanwyliaid yn mynd yn sâl.
“Dydi GIG Cymru ddim yn unig ar bwynt torri – mae’n hollti yn ei wythiennau.
“Ni allwn barhau i anwybyddu’r eliffant yn yr ystafell, sef gofal cymdeithasol.
“Addawodd Llafur a Phlaid Cymru ddiwygio gofal cymdeithasol yn eu Bargen Gydweithredol, ac eto nid oes dim byd ystyrlon wedi’i gyhoeddi hyd yma.
“Hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd yr argyfwng gofal cymdeithasol o ddifrif, bydd ein hadrannau achosion brys yn parhau i wynebu problemau gan na allant ryddhau cleifion ac mae ambiwlansys yn eistedd yn ciwio y tu allan i ysbytai yn lle helpu mwy o bobol.”
Ymateb Llywodraeth Cymru – ‘Rhagfyr yn fis eithriadol’
“Roedd Rhagfyr yn fis eithriadol, ac roedd galw mawr ar y gwasanaeth ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys o hyd. Cafodd y nifer mwyaf erioed o alwadau coch/lle roedd bywyd yn y fantol eu gwneud y mis hwn,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Er bod cyfran y galwadau coch a gafodd ymateb o fewn 8 munud yr isaf ar gofnod, ym mis Rhagfyr, cafodd y nifer mwyaf erioed o alwadau coch ymateb brys o fewn 8 munud. O heddiw ymlaen, bydd 75 o glinigwyr ambiwlans ychwanegol ar waith i gefnogi ymateb amserol gan y gwasanaeth ambiwlans.
“Roedd 2,847 o ymweliadau dyddiol ar gyfartaledd ag adrannau damweiniau ac achosion brys ac unedau mân anafiadau. Cafodd nifer yr ymweliadau hyn effaith ar berfformiad yn erbyn y targedau pedair awr a deuddeg awr.
“Er bod pwysau a galw mawr yn cael eu profi ar draws y system gyfan, a hynny wedi arwain at rai cleifion yn gorfod aros yn hirach nag y byddem yn ei obeithio, cafodd dros 6000 (14.9%) o alwadau am ambiwlans eu rheoli’n ddiogel drwy asesiadau ffôn o bell. O ganlyniad, roedd pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn y gymuned gydag adnoddau ambiwlans yn cael eu rhyddhau i ymateb i alwadau eraill.
“Yn ogystal â hynny, cafodd dros 138,000 o alwadau eu gwneud i wasanaeth llinell gymorth 111, y nifer mwyaf ar gofnod a chynnydd o 157% o’i gymharu â phan roedd y nifer hwn yn ei anterth ddiwethaf, ym mis Gorffennaf 2022. Roedd hefyd bron i 503,000 o ymweliadau â gwefan GIG 111 Cymru, ac roedd y rhain yn cynnwys dros 27,300 o ymholiadau wedi’u cwblhau gan y gwiriwr symptomau.
“Er ein bod ni’n cydnabod nad yw gofal brys yn perfformio ar y lefel y byddem yn ei disgwyl, rydym yn ysgogi gwelliannau i’r system. Mae’r gwelliannau hynny yn cynnwys ymestyn oriau agor gwasanaethau gofal brys yr un diwrnod i saith diwrnod yr wythnos, gwella’r ffordd y mae cleifion 999 yn cael eu rheoli dros y ffôn, a recriwtio rhagor o staff.
“Heb yr holl ymdrechion hyn, byddai mwy o bwysau eto ar y system hyd yn oed.”