Mae nifer o ysgolion ar draws Cymru wedi cael eu gorfodi i gau unwaith eto heddiw (dydd Iau, Ionawr 19) wrth i eira achosi trafferthion mewn rhannau o’r wlad.

Mae rhybudd tywydd melyn am eira a rhew mewn grym ac amodau teithio anodd o 5yh heddiw hyd at 10yb ddydd Gwener.

Daw’r rhybudd diweddaraf ar ôl o leiaf ddeuddydd o rybuddion am dywydd gaeafol.

Mae ysgolion ar draws sawl awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot a Sir y Fflint yn bennaf,  wedi cael eu gorfodi i gau gyda mwy yn dweud eu bod yn asesu’r sefyllfa yn ystod y dydd.

Dyma restr lawn o’r safleoedd sydd ar gau ar hyn o bryd:

Pen-y-bont ar Ogwr:

Ysgol Gynradd Abercerdin

Caerffili:

Ysgol Gynradd Aberbargoed

Ysgol y Lawnt

Sir Gaerfyrddin:

Ysgol Bro Dinefwr

Ysgol Brynaman

Ysgol Carreg Hirfaen

Ysgol Rhys Prichard

Ceredigion:

Ysgol Bro Pedr

Ysgol y Dderi

Ysgol Rhos Helyg – Llangeitho campus only.

Ysgol Felinfach

Ysgol Pontrhydfendigaid

Ysgol Mynach

Ysgol Syr John Rhys

Conwy:

Ysgol Penmachno

Sir Ddinbych:

Ysgol Bodfari

Ysgol Bro Famau

Sir y Fflint:

Ysgol Treffynnon

Ysgol Bro Carmel

Ysgol Maes y Felin

Gwynedd:

Ysgol Penybryn

Ysgol Dyffryn Ogwen

Ysgol Babanod Abercaseg

Ysgol Glancegin – yn rhannol oherwydd problemau staffio.

Castell-nedd Port Talbot:

Ysgol Maes y Coed

Rhondda Cynon Taf:

Aberdare Community School

Aberdare Town C in W Primary

Cwmaman Primary School

Cwmbach C in W Primary School

Ferndale Community School

Llwydcoed Primary School

Porth Community School

SS Gabriel & Raphael RC Primary School

St John Baptist C in W High School

Treorchy Comprehensive School

Williamstown Primary School

Ysgol Gyfun Cwm Rhondda

Ysgol Gyfun Rhydywaun

Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn