Hyd nes y byddwn ni’n gwerthfawrogi gwaith gofalu’n iawn, bydd cydraddoldeb yn dal i fod yn ddim mwy na dyhead.

Y penwythnos diwethaf, cafodd y Gweinidog Iechyd ei chyfweld ar Politics Wales. Fel rhan o’r cyfweliad eang hwn, bu’r drafodaeth yn canolbwyntio ar benderfyniad Llywodraeth Cymru, lle bo modd, i ryddhau cleifion o ysbytai Cymru heb fod cynlluniau gofal llawn yn eu lle. Diolchodd y Gweinidog i berthnasau sydd wedi camu i’r adwy i helpu gyda gofal ôl-ysbyty gan felly helpu cleifion i lifo drwy’r system yn gyflymach. Daeth y Gweinidog â’r frawddeg honno i ben gan ddweud, “Mae’n rhaid i ni weld mwy o hynny”.

Roedd hyn bron yn sicr yn sylw heb ei sgriptio. Dydw i ddim yn credu am eiliad mai ateb Llywodraeth Cymru i’r argyfwng iechyd a gofal cymdeithasol presennol yw dibynnu’n llwyr ar ofal di-dâl perthnasau a theuluoedd. Ond mae’r sylw bach yna’n cyfeirio at fater llawer mwy a mater sydd wedi ymwreiddio’n ddwfn, sef ein dibyniaeth ar – ac yn gyson ein tanwerthfawrogiad o – ofal di-dâl.

Mae’r mwyafrif mawr o ofal di-dâl – boed hynny’n ofalu am blant, am berthnasau oedrannus neu sâl – yn cael ei wneud gan fenywod. Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o grybwyll gofalu am y teulu neu’r cartref fel rheswm dros fod yn economaidd anweithgar. Mae menywod yn darparu mwy na dwywaith cymaint o ofal plant di-dâl y flwyddyn na dynion, yn 58% o’r gofalwyr di-dâl ac ar gyfartaledd maen nhw’n darparu mwy o oriau o ofal di-dâl na dynion. Mae menywod hefyd yn fwy tebygol o ddarparu gofal dwysedd uchel a hynny yn yr oedran y bydden nhw’n disgwyl bod mewn gwaith cyflogedig.

Felly mae menywod ledled Cymru yn debygol iawn o fod eisoes yn rhan o ddarparu gofal a chymorth i berthnasau. I’r menywod sydd fwyaf ar y cyrion, yn enwedig y rhai ar incwm isel, mae’r siawns eu bod yn rhan o’r broses o ddarparu rhyw fath o ofal di-dâl, hyd yn oed yn uwch. Byddai gan unrhyw benderfyniad a fyddai’n gweld yr angen i’r gofal di-dâl hwn gynyddu, fel y penderfyniad i ryddhau cleifion heb gynlluniau gofal llawn, oblygiadau sylweddol i fenywod, ac i’n symudiad tuag at gydraddoldeb rhywedd.

Dydy hon ddim yn broblem unigryw i Gymru. Ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig ac ar draws y byd yn draddodiadol, ychydig iawn o werth sy’n cael ei roi ar y gwaith di-dâl hanfodol hwn. Ac mae hyn yn rywbeth sydd, yn anffodus, wedi symud i’r sector gofal cyflogedig, lle bu degawdau o danfuddsoddi, ac sy’n parhau i fod â chyflogau isel ac amodau gwaith gwael. Rhaid canmol Llywodraeth Cymru am eu camau diweddar i fynd i’r afael â rhai o’r materion hyn yn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys yr ymrwymiad i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal. Fodd bynnag, rhaid cydnabod bod yr argyfwng presennol rydyn ni’n ei brofi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn fater cronig, hirdymor mewn gwirionedd. Dydy datrysiadau cyflym ddim yn mynd i fod yn ddigon, ac maen nhw’n berygl o ymwreiddio anghydraddoldeb yn ddyfnach fyth.

Mae’r bylchau ar sail rhywedd a welwn yn ein heconomi, boed hynny’n gysylltiedig â chyflogau cyfartalog, cyfraddau cyflogaeth neu oriau a weithir, yn aml yn cael eu siapio gan y gofal di-dâl y mae menywod yn ceisio’i gydbwyso ochr yn ochr â gwaith cyflogedig. Mae’r bylchau yma hefyd yn golygu bod menywod yn fwy tebygol o brofi effeithiau gwaethaf yr argyfwng costau byw. Fel y digwyddodd yn ystod y pandemig ac yn sgil argyfwng ariannol 2008. Fel mae pethau’n newid ar hyn o bryd, bydd menywod yn aros ddegawdau cyn y byddan nhw’n mwynhau cydraddoldeb. Yn syml, allwn ni ddim fforddio gwneud penderfyniadau a fydd o bosibl yn arafu’r cynnydd ymhellach.

Beth yw’r ateb?

Mewn cyfnodau o argyfwng gall fod yn hawdd meddwl am fesurau cydraddoldeb fel rhywbeth fyddai’n braf i’w cael, pan mewn gwirionedd na fu ystyriaeth iawn o sut y gall penderfyniadau effeithio ar grwpiau difreintiedig erioed yn fwy pwysig. Wrth wynebu’r argyfwng presennol yn ein hysbytai, mae’n hawdd deall efallai bod y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau eisiau datrys y pwysau mwyaf cyn gynted â phosibl. Ond, allwn ni ddim disgwyl i fenywod gamu i’r adwy a gwneud yn iawn am ddegawdau o danfuddsoddi. Oherwydd menywod fydd yn gwneud hynny’n bennaf, os fyddwn ni’n gofyn i deuluoedd chwarae rôl fwy yng ngofal cleifion sy’n gadael yr ysbyty.

Er mwyn gwirioneddol fynd i’r afael â’r materion presennol, a diogelu rhag heriau’r dyfodol, mae angen i lywodraethau ar bob lefel newid eu meddylfryd, er mwyn cydnabod gwerth gwaith gofalu a buddsoddi yn y sectorau hanfodol hyn. Dylid rhoi gofal cymdeithasol yng nghanol strategaethau economaidd er mwyn cydnabod ei bwysigrwydd cenedlaethol a strategol. Dylid gwneud rhagor o waith er mwyn darparu pecyn newydd i weithwyr gofal, yn cynnwys gwell tâl, mynediad at hyfforddiant a llwybrau dilyniant. Ac mae’n rhaid i arferion comisiynu symud oddi wrth ganolbwyntio ar gost fel y maen prawf pwysicaf, ac yn hytrach ystyried ansawdd y gwasanaeth, sydd â chysylltiad annatod â’r tâl a’r amodau i weithwyr gofal.

Fyddai neb yn gwadu ein bod yn wynebu heriau anhygoel ar hyn o bryd, a bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gorfod gwneud dewisiadau amhosib. Ond mae’n hanfodol bod effeithiau’r penderfyniadau hyn yn cael eu hystyried yn iawn, a bod unrhyw effeithiau negyddol ar grwpiau sydd eisoes dan anfantais yn cael eu lliniaru.

Yn y sefyllfa hon, ni ellir anwybyddu’r effaith bosib ar fenywod. Am gyfnod rhy hir o lawer, dydyn ni ddim wedi gwirioneddol gydnabod pa mor ddibynnol ydyn ni i gyd ar waith gofal, boed hwnnw’n waith â thâl neu ddi-dâl. Hyd nes y bydd hyn yn newid, fydd cydraddoldeb yn parhau i fod yn ddim mwy na dyhead.