“Dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy’n poeni am bob cornel o’n cenedl,” yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y blaid.

Daw hyn wrth iddo groesawu arian o Gronfa Codi’r Gwastad ar gyfer canolfan ymwelwyr newydd yng Nghaergybi.

Bydd y £208m ar gael i ailddatblygu’r Pafiliwn ym Mhorthcawl, yn ogystal ag uwchraddio adeiladau treftadaeth yn Rhuthun a chefnogi Cam 1 o ‘Crossrail Caerdydd’.

Bydd cyfanswm o 11 o brosiectau yn derbyn cyfran o’r cyllid.

‘Newidiadau enfawr’

“Bydd y swm sylweddol hwn o arian yn galluogi prosiectau pwysig ledled Cymru i fynd o theori i realiti, gan sicrhau newidiadau enfawr i gymunedau lleol,” meddai Andrew RT Davies.

“Nid slogan yn unig yw hyn.

“Mae’r cylch buddsoddi hwn yn parhau ymrwymiad Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig i sicrhau ein treftadaeth Gymreig a hybu twristiaeth sy’n hollbwysig i greu swyddi ledled ein gwlad.

“Mae’n amlwg mai dim ond y Ceidwadwyr Cymreig sy’n poeni am bob cornel o’n cenedl.”