Mae Julie James, Ysgrifennydd Newid Hinsawdd Cymru, wedi cyhoeddi heddiw (dydd Gwener, Ionawr 20) y bydd Cymru’n cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes erbyn 2025.
Fel rhan o’r fenter newydd, bydd pobol yn talu blaendal bach wrth brynu diod mewn cynhwysydd untro, ac fe fydd yn cael ei ad-dalu pan fydd y botel neu’r can yn cael eu dychwelyd.
Mae Cymru’n cydweithio gyda Lloegr a Gogledd Iwerddon i sefydlu cynllun ar y cyd, sy’n golygu bod modd prynu diod yn y Barri, a’i ddychwelyd wedyn ym Mryste neu Belfast.
Mae’r Alban yn sefydlu cynllun penodol i’r wlad honno, a hwnnw’n dechrau’n ddiweddarach eleni.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn deddfwriaeth ddiweddar i wahardd nifer o blastigion untro.
Targed o gasglu 90% o gynhwysyddion
Bob blwyddyn, mae defnyddwyr y Deyrnas Unedig yn cael gwared ar ryw 14 biliwn o boteli diodydd plastig a naw biliwn o ganiau diodydd, ac mae llawer ohonyn nhw’n cael eu taflu fel sbwriel neu’n cyrraedd safleoedd tirlenwi.
Mae enghreifftiau rhyngwladol yn dangos y gall cynlluniau dychwelyd blaendal wella cyfraddau ailgylchu, ac mae cyfraddau uwch na 90% yn yr Almaen, y Ffindir a Norwy yn tystio i hyn.
Trwy’r cymhelliant ariannol i ddefnyddwyr ddychwelyd eu cynwysyddion diodydd untro, mae amcangyfrif y bydd 85% yn llai o gynwysyddion diodydd yn cael eu taflu fel sbwriel ar ôl tair blynedd o’r cynllun.
Mae targed i gasglu dros 90% o gynwysyddion diodydd i’w dychwelyd unwaith y bydd y cynllun yn weithredol.
Y deunyddiau fydd yn rhan o’r cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru yw cynwysyddion diodydd plastig polyethylen terephthalat (PET), dur, gwydr ac alwminiwm.
‘Angen i ni fynd ymhellach’
“Dyma gam arall ymlaen wrth i Gymru ddatblygu’n economi fwy cylchol lle mae llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu, a lle caiff adnoddau eu hailddefnyddio a’u hailgylchu yn hytrach na’u bod yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pen draw,” meddai Julie James.
“Mae ymgynghoriad wedi dangos cefnogaeth gyhoeddus enfawr i gyflwyno’r cynllun, ac rydyn ni’n gwybod bod pobol yng Nghymru eisiau cyfrannu at wella ein cyfraddau ailgylchu sydd eisoes ar y blaen.
“Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu, ond rydyn ni’n gwybod y gallwn ni a bod angen i ni fynd ymhellach i daclo’r gwastraff sy’n effeithio ar ein dinasoedd a’n trefi ac sy’n difetha ein cefn gwlad ac i leihau ein hallyriadau.”