Mae AUOBCymru a YesCymru wedi cyhoeddi y bydd y rali gyntaf dros annibyniaeth eleni yn cael ei chynnal yn Abertawe ar Fai 20.

Daw hyn yn dilyn gorymdeithiau yng Nghaernarfon, Merthyr Tudful, Wrecsam a Chaerdydd yn 2019 a 2022, gyda thros 10,000 o bobol yn yr orymdaith ddiweddaraf yn y brifddinas.

Cafodd YesCymru ei sefydlu yn 2016, ac mae’n fudiad sydd wedi ymrwymo i’r nod o Gymru annibynnol.

Mae AUOBCymru yn grŵp ymgyrchu o wirfoddolwyr sydd â’r nod o ddod â phobol at ei gilydd mewn gorymdeithiau dros annibyniaeth.

‘Y mwyaf uchelgeisiol eto’

“Rydym yn hynod hapus i gyhoeddi y bydd yr orymdaith nesaf dros annibyniaeth yn cael ei gynnal yn Abertawe ar 20 Mai,” meddai Elfed Williams, cadeirydd YesCymru.

“Mae rhywbeth arbennig am ddod at ein gilydd i orymdeithio dros Gymru annibynnol, ac mae’n wych gweld bod y gorymdeithiau wedi tyfu bob tro gyda gorymdaith Abertawe y mwyaf uchelgeisiol eto!

“Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda phobol Abertawe i groesawu pobol o bob cwr o Gymru ar Fai 20.

“Mae’r gri am annibyniaeth yn cynyddu o wythnos i wythnos, wrth i bobol Cymru sylweddoli mai’r unig ffordd y gall ein gwlad ffynnu yw torri i ffwrdd o’r undeb hon.”

‘Digon yw digon’

“Yr orymdaith yn Abertawe ar Mai 20 fydd y chweched orymdaith dros annibyniaeth a’r orymdaith bwysicaf hyd yn hyn,” meddai Llywelyn ap Gwilym ar ran AUOBCymru.

“Ar ôl dros ddegawd mewn grym, mae’r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn parhau i ddilorni ein gwleidyddiaeth a’n bywoliaeth.

“Mae’r sefyllfa’n cyrraedd pwynt argyfwng.

“Dwsin o flynyddoedd o lymder, yn chwalu’r economi yng nghanol argyfwng costau byw, llygredd o amgylch caffael PPE, a’r sylwadau ffiaidd gan yr ysgrifennydd cartref – mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i suddo i ddyfnderoedd is.

“Digon yw digon!”