Roedd arweinwyr Ffrainc a Sbaen wedi llofnodi Cytundeb Cyfeillgarwch Barcelona yn ystod cyfarfod yn y ddinas ddoe (dydd Iau, Ionawr 19).

Bwriad y cytundeb yw cydweithio ar yr amgylchedd, diogelwch, diwylliant ac amddiffyn – o ddysgu ieithoedd i ysbytai sy’n pontio’r ddwy wlad, a hybu twristiaeth ar y cyd.

Cafodd y Cytundeb ei lofnodi gan Pedro Sánchez, prif weinidog Sbaen, ac Emmanuel Macron, arlywydd Ffrainc, gyda Pere Aragonès, arweinydd Catalwnia, yn bresennol ar ddechrau’r cyfarfod yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol Catalwnia, ond ddim yn rhan o’r trafodaethau wedyn.

Beth ddywedodd yr arweinwyr?

Yn ôl Pedro Sánchez, mae Barcelona’n arwydd o “ysbryd avant-garde, solidariaeth, amrywiaeth, ymrwymiad cymdeithasol ac o amddiffyn treftadaeth ddiwylliannol”.

Daw ei sylwadau wrth i Sbaen baratoi i dderbyn swydd Llywydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd am flwyddyn o Orffennaf 1.

Daw’r Cytundeb ar “eiliad dda” i Ffrainc, yn ôl Emmanuel Macron, sy’n dweud ei fod yn cynnig “datrysiadau defnyddiol iawn i’n trigolion”.

Iechyd a ffiniau

Roedd ffiniau’n un o brif bynciau’r cyfarfod.

Cytunodd y ddwy wlad i greu gwasanaethau cyhoeddus ym meysydd iechyd, yr amgylchedd, diogelwch, ynni, addysg, diwylliant a thrafnidiaeth, gan gydweithio er lles y rheiny sy’n byw ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Un o’r gwasanaethau sy’n bodoli eisoes yw’r ysbyty yn ninas Cerdanya yng ngogledd Catalwnia ym mynyddoedd y Pyrenées.

Dyma’r ysbty cyntaf o’i fath yn Ewrop, ac mae Ffrainc a Sbaen wedi cytuno i geisio gwella mynediad at ganolfan iechyd a chael staff o’r ddwy wlad yn gweithio yn yr ysbyty.

Diogelwch a ffiniau

O ran diogelwch, mae’r ddwy wlad yn awyddus i edrych ar y mater y tu hwnt i ddim ond mewnfudwyr.

Er, cafodd y mater hwnnw ei drafod hefyd, wrth iddyn nhw geisio sefydlu gweithgor Sbaenaidd i fynd i’r afael â mewnfudwyr sy’n ceisio croesi’r ffin, ceisio lloches ac integreiddio yn eu cymunedau newydd wrth gyrraedd, yn ogystal â cheisio lleihau nifer y mewnfudwyr anghyfreithlon sydd yn y wlad.

Un o’r prif bethau gafodd ei gytuno oedd warantau arestio Ewropeaidd, a chytunodd y ddwy wlad i wella’u heffeithlonrwydd.

Serch hynny, mae ffiniau’n allweddol ac yn rhan bwysig o bolisi tramor y ddwy wlad.

Maen nhw’n awyddus i warchod ardal Schengen a’r rhyddid i symud, ond mae Ffrainc wedi bod yn cau ffyrdd rhwng y ddwy wlad dros y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd y perygl o ymosodiadau brawychol yn ystod y pandemig Covid-19.

Yr amgylchedd

Bydd y ddwy wlad hefyd yn parhau i gydweithio ym maes yr amgylchedd er mwyn gwarchod rhywogaethau prin, yn enwedig adar ac eirth y mynyddoedd.

Twristiaeth

Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Sbaen a Ffrainc, ac maen nhw wedi cytuno i gydweithio yn y maes hwn hefyd.

Byddan nhw’n cyfnewid syniadau a thechnegau er mwyn creu model twristiaeth sy’n parchu diwylliant, pensaernïaeth a threftadaeth naturiol y ddwy wlad.

Y llynedd, aeth mwy o ymwelwyr i Sbaen o Ffrainc nag o unrhyw wlad arall.

Diwylliant

Mae “cyfoeth diwylliant a diwylliant ieithyddol” y ddwy wlad yn rhan bwysig o Gytundeb Barcelona.

Un prif ffocws yw’r cydweithio ar dreftadaeth ddiwylliannol a’r sector diwylliannol ar y cyfan, gyda phwyslais arbennig ar y diwydiant ffilm a phrosiectau digidol.

Bydd cydweithio rhwng amgueddfeydd yn hanfodol hefyd, gydag arlunwyr yn gallu gweithio’r ddwy ochr i’r ffin heb gyfyngiadau.

Mae gwyddoniaeth hefyd yn rhan o’r cytundeb, a’r nod yw sefydlu gwobr newydd Betancourt-Perronet, gyda grantiau ac arian arall ar gael i bobol sy’n gweithio yn y maes.

Ynni

Mae’r ddwy wlad wedi ategu eu hymrwymiad i brosiect pibellau ynni gwyrdd H2Med.

Bydd hyn yn sicrhau bod y ddwy wlad yn cydweithio â swyddogion ynni a Chomisiwn Ewrop i geisio cymaint o arian â phosib ar gyfer y prosiect.

Y nod yw cyfrannu ym maes yr amgylchedd at Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) yr Undeb Ewropeaidd, a datblygu economi yn y gobaith o gyfyngu cynhesu byd eang i gynnydd o 1.5 gradd selsiws.

Barcelona yn rhan o hanes

Yn ôl Pedro Sánchez, mae Barcelona bellach yn rhan o hanes yn sgil llofnodi’r Cytundeb Cyfeillgarwch yno.

Dywed fod defnyddio enw’r ddinas yn arwydd o “barch, ystyriaeth ac edmygedd”.

Achubodd ar y cyfle hefyd i ddatgan ymrwymiad Llywodraeth Sbaen i’r ddinas, ond byddai beirniaid yn dadlau, mae’n siŵr, mai ymgais oedd hyn i dawelu’r dadleuon tros annibyniaeth i Gatalwnia.

Pedro Sanchez

Miloedd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn protestio yn erbyn uwchgynhadledd rhwng Sbaen a Ffrainc

Mae rali yn cynnwys yr holl bleidiau sy’n cefnogi gadael Sbaen wedi dod ynghyd ar drothwy cyfarfod rhwng arweinwyr y ddwy wlad