Yn dilyn ymadawiad Jacinda Ardern, Prif Weinidog Seland Newydd, mae adroddiadau y gallai Māori ei holynu.

Dyma’r tro cyntaf yn hanes y wlad y byddai rhywun o dras frodorol yn cael eu penodi i’r swydd, gyda Nanaia Mahuta ymhlith y ceffylau blaen.

Mae hi eisoes wedi creu hanes drwy fod y person brodorol cyntaf i fod yn weinidog yn y llywodraeth.

Cafodd ei hethol yn aelod ieuengaf Tŷ’r Cynrychiolwyr rhwng 1999 a 2002, gan ddod yn aelod o’r Cabinet yn 2005, a’r cabinet cysgodol yn 2008.

Ceisiodd hi ddod yn arweinydd ei phlaid yn 2014.

Mae hi’n Aelod Seneddol dros Hauraki-Waikato ers 1999, ac yn Weinidog Materion Tramor, y ferch Māori gyntaf i dderbyn y swydd, ac yn Weinidog Llywodraeth Leol yn y Llywodraeth Lafur.

Cyn hynny, bu’n Weinidog Datblygu’r Māori.

Cafodd ei dewis yn un o 100 o Ferched y BBC.

Ei thad yw’r gwleidydd blaenllaw, Syr Robert Mahuta, ac mae’r tad a’r ferch yn aelodau o deulu brenhinol Māori.

Mae hi wedi tynnu sylw helaeth at draddodiadau’r Māori dros y blynyddoedd, gan benderfynu gwisgo moko, sef math o datŵ traddodiadol.

Mae ganddi radd o Brifysgol Waikato mewn Anthropoleg Cymdeithasol a Datblygu Busnes y Māori.